Dún Aengus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dún Aengus uwch tonnau'r Iwerydd.
Rhan o furiau trwchus Dún Aengus.

Bryngaer ar Inis Mór yn Ynysoedd Arann, Iwerddon yw Dún Aengus (hefyd: Dún Oengus). Saif ar ben clogwyn calchfaen yn uchel uwch y môr ar ochr ogleddol Inis Mór, oddi ar arfordir Swydd Galway. Mae'n safle archaeolegol pwysig sydd yng ngofal Oidhreacht Éireann ac mae'n atyniad twristaidd sy'n denu ymwelwyr i Ynysoedd Arann.

Traddodiad[golygu]

Ystyr yr enw Gwyddeleg Dún Aengus yw 'Caer Aengus'. Arwr neu dduw ym mytholeg Iwerddon yw Oengus (neu Aengus). Mae'r gair dún yn gytras â'r gair Cymraeg 'din[as]' (hen ystyr: 'caer'). Yn ôl traddodiad a gofnodir yn y Lebor Gabála, gyrrwyd goroeswyr y Fir Bolg ar ffo ar ôl iddynt gael eu trechu gan y Tuatha Dé Danann ym mrwydr Mag Tuired. Ymsefydlodd eu brenin, Oengus mac Úmoír, ar ynys Aran yn yr Alban. Ond ceir amrywiad ar y traddodiad mewn cerdd gan y bardd Mac Liac sy'n dweud mai i ynysoedd Arann ac arfordir Connacht yr aeth y Fir Bolg. Yna codwyd dwy gaer fawr gan ddau o feibion Úmoír: cododd Oengus gaer Dún Aengus ar Inis Mór a chododd ei frawd Conchuirn gaer Dún Conchuirn (neu Dún Chonchúir) ar yr ynys lai, Inis Maan.[1]

Archaeoleg[golygu]

Oherwydd bod y gaer yn sefyll ar graig galchfaen heb fawr o bridd nid yw'n debyg y bydd archaeolegwyr byth yn medru darganfod tystiolaeth fel crochenwaith i'w cynorthwyo i ddyddio'r gaer, ond mae'n debyg y cafodd ei chodi yn Oes yr Haearn.[2]

Amddiffynir y gaer drawiadol hon gan dri mur amddiffynnol consentrig o gerrig mawr. Nid oes mur ar ochr y môr am fod y creigiau mor uchel a syrth, gan godi dros 100 metr yn syth o'r Môr Iwerydd. Ceir cylch o chevaux de frise (cerrig miniog wedi eu gosod yn y tir) hefyd.[3]

Cafwyd sawl cynnig i esbonio'r dewis o le mor anhygrych fel safle'r gaer fawr hon, yn cynnwys "safle Derwyddol", ond mae'n debyg na fydd yn bosibl i ni wybod byth oherwydd natur y safle. Cynigir ei bod yn rheoli'r arfordir rhwng Ynysoedd Arann a'r tir mawr, tua 10 milltir i ffwrdd ar ei bwynt agosaf, a'r mynediad i Fae Galway. Ceir tair caer gynhanesyddol arall, llai eu maint, ar yr ynys yn ogystal.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. T. F. O'Rahilly, Early Irish History and Mythology (Dulyn, 1946; argraffiad newydd 1999), tt. 144-45.
  2. Barry Raftery, 'The Early Iron Age', yn Irish Archaeology Illustrated gol. Michael Ryan (Dulyn, 1994), tud. 111.
  3. 'The Early Iron Age', tud. 111.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: