Cytsain wefus-ddeintiol
Oddi ar Wicipedia
Mewn seineg, yngenir cytsain wefus-ddeintiol â'r wefus isaf a'r dannedd uchaf.
Ceir y cytseiniaid gwefus-deintiol canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
| IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
|---|---|---|---|---|---|
| Iaith | Sillafu | IPA | Ystyr | ||
| cytsain drwynol wefus-ddeintiol leisiol | Cymraeg | ymffrost1 | [əɱfrɔst] | ymffrost | |
| p̪ | cytsain ffrwydrol gwefus-ddeintiol di-lais | ||||
| b̪ | cytsain ffrwydrol gwefus-ddeintiol lleisiol | ||||
| p̪͡f | cytsain affrithiol wefus-ddeintiol ddi-lais | Tsonga3 | [tim̪p̪͡fuβu] | hipopotamws | |
| b̪͡v | cytsain affrithiol wefus-ddeintiol leisiol | Tsonga4 | [ʃileb̪͡vu] | gên | |
| cytsain ffrithiol wefus-ddeintiol ddi-lais | Cymraeg | ffôn | [foːn] | ffôn | |
| cytsain ffrithiol wefus-ddeintiol leisiol | Cymraeg | haf | [hav] | haf | |
| cytsain amcanedig wefus-ddeintiol | Iseldireg | wang | [ʋɑŋ] | boch | |
| cytsain gnithiedig wefus-ddeintiol | iaith Mono | vwa | [ⱱa] | anfon | |
| ɧ | cytsain ffrithiol daflod-felar ddi-lais | Swedeg5 | sjok | [ɧuːk] | talp |
Nodiadau:
- Aloffon i /m/ o flaen /v/ and /f/ yw .
- Ni phrofwyd bod y stopiau (y ffrwydrolion a'r ɱ drwynol) yn ffonemau ar wahân mewn unrhyw iaith. Maent yn cael eu hysgrifennu fel ȹ a ȸ (llythyrblethau qp a db).
- Mae hyn yn wir yn nhafodaith XiNkuna Tsonga, lle mae'n ffonem ar wahân ac iddi aloffonau anadlog ac ananadlog. Sylwer nad yr affrithiolen ddwywefusol-wefusddeintiol Almaeneg mo hon, sy'n dechrau gyda ffrwydrolyn dwywefusol di-lais.
- Eto, dim ond yn nhafodiaith XiNkuna.
- Mae'n amrywio gryn dipyn rhwng y tafodieithoedd. Gall fod yn debyg i'r ffrithiolen felar ddi-lais [x] weithiau.