Cytsain ochrol
Oddi ar Wicipedia
Mewn seineg, cytsain lle y mae'r anadl yn llifo ar hyd ochrau'r tafod ond sy'n cael ei rhwystro rhag mynd trwy ganol y geg gan y tafod yw cytsain ochrol.
Ceir y cytseiniaid ochrol canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
| IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
|---|---|---|---|---|---|
| Iaith | Sllafu | IPA | Ystyr | ||
| l̪ | cytsain amcanedig ochrol ddeintiol | Sbaeneg | alto | [al̪t̪o] | tal |
| ɬ | cytsain ffrithiol ochrol ddi-lais | Cymraeg | llaw | [ɬau] | llaw |
| ɮ | cytsain ffrithiol ochrol leisiol | Swlw | dlala | [ɮálà] | llaw |
| tɬ͡ | cytsain affrithiol ochrol orfannol ddi-lais | Tsez | элIни | [ʔɛtɬ͡ni] | gaeaf |
| dɮ͡ | cytsain affrithiol ochrol orfannol leisiol | Oowekyala | |||
| l | cytsain amcanedig ochrol orfannol | Cymraeg y de | lôn | [loːn] | lôn |
| ɺ | cytsain gnithiedig ochrol orfannol | Japaneg | ラーメン(rāmen) | [ɺaːmeɴ] | nwdls rāmen |
| ǁ | clec ochrol orfannol | iaith Xhosa | isiXhosa | [isiǁʰosa] | iaith Xhosa |
| cytsain amcanedig ochrol olblyg | Swedeg | Karlstad | [kʰɑːɭ.sta] | Karlstad | |
| ɺ̢ () | cytsain gnithiedig ochrol olblyg | Pashto | ړوند (ṛund) | [ɺ̢und] | dall |
| cytsain amcanedig ochrol daflodol | Eidaleg | aglio | [aʎːo] | garlleg | |
| cystain amcanedig ochrol felar | iaith Mid-Wahgi | aʟaʟe | [aʟaʟe] | chwil, penysgafn | |
Gweler hefyd[golygu]
Ffynonellau[golygu]
- Ladefoged, Peter; Ian Maddieson (1996). The Sounds of the World's Languages. Rhydychen: Blackwell. ISBN 0-631-19814-8.