Cytsain ffrwydrol
Oddi ar Wicipedia
Mewn seineg, cytsain stop yw cytsain ffrwydrol neu ffrwydrolyn lle y mae'r llwybr lleisiol yn cael ei rwystro er mwyn atal llif yr anadl. Gellir rhwystro'r anadl â'r tafod neu â'r gwefusau. Mae cytseiniaid ffrwydrol yn cyferbynnu â chytseiniaid trwynol lle y mae rhwystr i'r llwybr lleisiol ond mae'r anadl yn llifo trwy'r trwyn, ac â chytseiniaid ffrithiol lle y rhwystrir yr anadl yn rhannol.
Ceir y cytseiniaid ffrwydrol canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
| IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
|---|---|---|---|---|---|
| Iaith | Sillafu | IPA | Ystyr | ||
| p | ffrwydrolyn dwywefusol di-lais | Cymraeg | pâl | [pʰaːl] | pâl |
| b | ffrwydrolyn dwywefusol lleisiol | Cymraeg | bardd | [barð] | bardd |
| t | cytsain ffrwydrol orfannol di-lais | Cymraeg y de | tŷ | [tʰiː] | tŷ |
| d | cytsain ffrwydrol orfannol lleisiol | Cymraeg y de | dŵr | [duːr] | dŵr |
| cytsain ffrwydrol olblyg ddi-lais | Hindi | टापू (ṭāpū) | [ʈaːpu] | ynys | |
| cytsain ffrwydrol olblyg leisiol | Swedeg | nord | [nuːɖ] | gogledd | |
| cytsain drwynol daflodol | Ffrangeg | agneau | [aɲo] | oen | |
| cytsain ffrwydol daflodol ddi-lais | Hwngareg | hattyú | [hɒcːuː] | alarch | |
| cytsain ffrwydrol ddi-lais felar | Cymraeg | sgwd | [skuːd] | sgwd | |
| cytsain ffrwydrol felar leisiol | Cymraeg | gŵr | [guːr] | gŵr | |
| cytsain ffrwydrol sefnigol ddi-lais | Casacheg | Қазақ Qazaq | [qɑzɑq] | Casachiad | |
| cytsain ffrwydrol sefnigol leisiol | Inuktitut | utirama | [ʔutiɢama] | gan fy mod yn dychwelyd | |
| ʡ | cytsain ffrwydrol ardafodol di-lais | iaith Chaida | g̱antl | [ʡʌntɬ] | dŵr |
| ʔ | cytsain ffrwydrol lotol di-lais | Hawäieg | ‘ōlelo | [ʔoːlelo] | iaith |
Gweler hefyd [golygu]
Ffynonellau [golygu]
- Ladefoged, Peter; Ian Maddieson (1996). The Sounds of the World's Languages. Rhydychen: Blackwell. ISBN 0-631-19814-8.