Cytsain ardafodol

Oddi ar Wicipedia

Mewn ffonoleg, yngenir cytsain ardafodol â'r plygion ary-ardafodol yn erbyn y ardafod. Ceir y cytseiniaid ardafodol canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):

IPA Disgrifiad Enghraifft
Iaith Sillafu IPA Ystyr
ʡ cytsain ffrithiol ardafodol ddi-lais iaith Chaida antl [ʡʌntɬ] dŵr
ʢ cytsain ffrithiol ardafodol leisiol neu amcanedig ardafodol leisiol Arabeg تَعَشَّى [ʢɑʃʃæ] cael swper
ʜ cytsain ffrithiol ardafodol ddi-lais yr iaith Agwl [ʜ] maidd
  • Efallai nad yw'n bosibl ynganu ffrwydrolyn ardafodol lleisiol. Pan gaiff un ei leisio, er enghraifft yn yr iaith Dahalo, bydd yn troi'n gytsain gnithiedig.
  • Er mai yn rhes y ffrithiolion y ceir [ʢ] yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol, cytsain amcanedig ydyw fel arfer. Mae'r symbol yn amwys ond nid oes gan unrhyw iaith gytseiniaid ffrithiol ac amcanedig gwahanol yma. Weithiau mae'r acen [̞] yn cael ei defnyddio i ddangos ei bod hi'n amcanedig: [ʢ̞].
  • Mae cytseiniaid crych yn eithaf cyffredin ymhlith y cytseiniaid ardafodol ond gellir ystyried y rhain yn ffrwydrolion neu'n ffrithiolion ffonemig, a'r elfen grych yn fanylyn seinegol. Nid oes symbol am hyn yn yr IPA er i [я] gael ei defnyddio o bryd i'w gilydd.

Nid oes llawer o enghreifftiau o gytseiniaid ardafodol ymysg ieithoedd y byd. Er hynny, efallai bod hyn yn rhannol wir gan fod ieithyddion sy'n siarad ieithoedd Ewropeaidd yn eu cael nhw'n anodd eu hadnabod. Ceir sawl achos pan oedd ieithyddion yn credu mai ardafodol oedd mewn rhyw iaith, ond wedyn sylweddolwyd mai rhai argegol oedden nhw, er enghraifft yn yr iaith Dahalo.

Mae ieithoedd sy'n cynnwys cytseiniaid ardafodol mewn sawl lle dros y byd, ond mae'r rhai enwocaf yn y Dwyrain Canol ac yng Ngholumbia Brydeinig, o'r enw "cytseiniaid crych ardafodol" yn yr iaith Chaida. Er bod sôn bod cytseiniaid argegol mewn sawl iaith Salisiadd a Wacasiaidd yn Ngholumbia Brydeinig, mae'n debyg mai ardafodol ydyn nhw. Efallai bod hyn yn wir am rai ieithoedd y Cawcasws hefyd.

Dywedir yn ddiweddar fod pwynt ynganu newydd yn bodoli, sef ardafod-argegol.

Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.