Cysylltiadau tramor y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yng ngwleidyddiaeth ryngwladol mae'r Deyrnas Unedig yn bŵer mawr gyda chysylltiadau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol ar draws y byd. Allforiwyd systemau seneddol, llywodraethol, cyfreithiol ac ariannol, ac iaith y Deyrnas Unedig i wledydd eraill gan yr Ymerodraeth Brydeinig, ac mae'r Gymanwlad yn cadw cysylltiadau rhwng y DU a nifer o'i chyn-drefedigaethau. Mae'r DU yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, yr G8, a NATO, ac mae ganddi sedd arhosol ar Gyngor Diogelwch y CU.

Cysylltiadau yn ôl gwlad neu ranbarth[golygu]

Affrica[golygu]

Roedd y Deyrnas Unedig yn bŵer trefedigaethol dominyddol ar gyfandir Affrica yn ystod yr Ymgiprys am Affrica a chyfnod imperialaeth y ddwy ganrif ddiwethaf, ac felly heddiw mae ganddi gysylltiadau â nifer o wledydd Affrica fel aelod blaenllaw y Gymanwlad. Mae'r Deyrnas Unedig yn gefnogwr cryf o Bartneriaeth Newydd ar gyfer Datblygiad Affrica (NEPAD) ac yn gweithio'n agos gyda Ffrainc, cyn-bŵer trefedigaethol arall, ers Uwchgynhadledd Saint-Malo yn 1998 i ffurfio a gweithredu polisïau cytûn ar ddatblygiad a diogelwch yn Affrica.[1] Yn ddiweddar llwyddodd lluoedd Prydeinig i chwarae rhan mewn dod â therfyn i Ryfel Cartref Sierra Leone, a gosododd Tony Blair Affrica fel un o flaenoriaethau 31ain Uwchgynhadledd yr G8 yn 2005. Mae'r llywodraeth Brydeinig wedi bod yn wrthwynebol iawn i ddulliau llywodraeth Robert Mugabe o ddiwygio tir yn Zimbabwe, wrth ffafrio rhaglen gynaliadwy ar gyfer tlodion gwledig Zimbabwe sy'n gytûn a'i hymrwymiadau i Gytundeb Lancaster House yn 1979.[2]

Gwlad Belg[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Cysylltiadau rhwng Gwlad Belg a'r Deyrnas Unedig

Y Caribî[golygu]

Y niferoedd o fewnfudwyr a siapiodd y gymuned Affro-Garibïaidd Brydeinig, cymuned sydd yn cynnwys tua 600 000 o ddinasyddion y DU sydd wedi cael dylanwad sylweddol ar ddiwylliant, chwaraeon, y cyfryngau, a gwleidyddiaeth; y diwydiant twristiaeth sy'n denu miliwn o Brydeinwyr i ynysyoedd y Caribî pob blwyddyn; iaith a systemau cyfreithiol, addysgiadol a seneddol tebyg; a chysylltiadau masnachol gydag allforion Prydeinig i'r Caribî werth £1000 miliwn y flwyddyn yw seiliau cryfder perthynas y Deyrnas Unedig â gwledydd y Caribî.[3]

Iran[golygu]

Mae cysylltiadau cyfredol rhwng Iran a'r Deyrnas Unedig, fel gyda nifer o wledydd Gorllewinol eraill, yn fregus. Gwrthwynebiad gan yr Undeb Ewropeaidd a'r Unol Daleithiau i raglen niwclear Iran yw blaenoriaeth cysylltiadau'r ddwy wlad, ac mae tensiynau diweddar dros ddigwyddiad lle cipiwyd aelodau o'r Llynges Frenhinol gan Iran.

Pakistan[golygu]

Cysylltiadau agos a chyfeillgar sydd rhwng y Deyrnas Unedig a Pakistan; o 1858 i 1947 roedd Pakistan yn rhan o'r Raj Brydeinig ac ers Rhaniad India mae cysylltiadau gwleidyddol, diwylliannol ac economaidd rhwng y ddwy wlad wedi ffynnu. Yn ogystal â chysylltiadau dwyochrog, mae perthynas y ddwy wlad wedi'i chryfhau gan gysylltiadau trwy'r Gymanwlad a'r Undeb Ewropeaidd.

Gwerth masnach rhwng y DU a Pakistan yw rhyw £1013 miliwn y flwyddyn, ac mae dros 100 o fusnesau Prydeinig yn gweithredu yn Pakistan.[4] Mae rhyw 800 000 o Brydeinwyr Pakistanaidd yn byw yn y DU,[4] ac maent wedi cael effaith sylweddol ar ddiwylliant y Deyrnas Unedig yn y ganrif ddiwethaf.

Rwsia[golygu]

Sefydlwyd cysylltiadau rhwng Teyrnas Lloegr a Tsaraeth Rwsia yn 1553, ac yn y bedair canrif a hanner a ddilynodd bu hanes cymhleth iawn rhwng y ddwy wlad. Bu'r DU ac Ymerodraeth Rwsia yn ymladd ochr yn ochr yn ystod Rhyfel Olyniaeth Awstria, Chwyldro Groeg, a'r Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn erbyn ei gilydd yn y Rhyfel Saith Mlynedd, y Rhyfel Eingl-Rwsiaidd, a Rhyfel Crimea, ac yn wrthwynebwyr cryf yn ystod y Gêm Fawr am reolaeth a dylanwad yng Nghanolbarth Asia. Brwydrodd y DU a'r Undeb Sofietaidd fel cynghreiriaid yn yr Ail Ryfel Byd, ond am y 45 mlynedd ddilynol buont ar flociau gwrthwynebol y Rhyfel Oer.

Ers cwymp UGSS yn 1991, mae cysylltiadau wedi gwella rhywfaint, ond bu anghydfodau diweddar dros estraddodiadau. Gwrthododd y DU ystraddodi Boris Berezovsky a therfysgwyr Chechnyaidd yn 2003, ac yn 2007 gwrthododd Rwsia ystraddodi Andrei Lugovoi, yn sgil yr ymchwiliad heddlu Prydeinig ar farwolaeth Alexander Litvinenko gan wenwyniad poloniwm, gan fod estraddodiad yn anghyfansoddiadol. O ganlyniad bu gyfres o diarddeliadau "cast am gast"[5] o ddiplomyddion Prydeinig a Rwsiaidd. Yng Ngorffennaf 2007 dywedodd Gweinidog Tramor Rwsia, Sergei Lavrov, ei fod am wella cysylltiadau â'r DU, er wnaeth sôn am ymglymiad honedig gwasanaethau cudd Prydeinig ym marwolaeth Litvinenko.[5]

Mae'r DU yn rhoddwr cymorth i Rwsia. Dechreuodd yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol gweithio'n ddwyochrog â'r Ffederasiwn ar ddechrau'r 1990au, wrth gefnogi trawsnewidiad y wlad i economi marchnad. Ers 2002 canolbwynt polisïau datblygu yw diwygiadau gweinyddol a chymdeithasol llywodraeth Rwsia. Yn y flwyddyn ariannol 2005/2006, gwariodd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad rhyw £2.2 miliwn fel cymorth datblygu, a'r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol rhyw £7 miliwn ar Rwsia, yn cynnwys arian ar gyfer gweithredoedd dyngarol yng Ngogledd y Cawcasws.[6]

O ran cysylltiadau economaidd, y DU oedd y buddsoddwr mwyaf yn Rwsia yn 2006 a 2007, gyda dros 400 o gwmnïau Prydeinig yn weithredu yn y Ffederasiwn. Cynydda masnach rhwng y ddwy wlad tua 25% y flwyddyn am y pum mlynedd ddiwethaf.[6]

Yr Unol Daleithiau[golygu]

Y cyn-Brif Weinidog Prydeinig Tony Blair (chwith) yn ysgwyd llaw â'r Arlywydd Americanaidd George W. Bush yn Camp David ym Mawrth 2003.

Mae cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol cryf rhwng y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau wedi datblygu perthynas wleidyddol a milwrol agos iawn yn yr 20fed ganrif. Y Deyrnas Unedig oedd prif gynghreiriad yr Unol Daleithiau yn ystod y Rhyfel Oer ac nawr yn y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth. Yn ôl polisi cyfredol y Swyddfa Dramor, "perthynas ddwyochrog bwysicaf" y Deyrnas Unedig yw'r cynghrair drawsiwerydd â'r Unol Daleithiau.[7] Ym mlynyddoedd diweddar, mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ac Arlywydd yr Unol Daleithiau yn aml wedi cael cyfeillgarwch agos â'i gilydd, e.e. Margaret Thatcher a Ronald Reagan, Tony Blair a George W. Bush. Yn aml gelwir y berthynas rhwng y ddwy wlad yn "y berthynas arbennig" (special relationship). Mae'n deg dweud serch hynny nad oedd gefnogaeth lwyr gan y bobl gyffredin i'r berthynas glos rhwng Tony Blair a George W. Bush, yn arbennig yn achos mynd i ryfel yn erbyn Irac yn 2003. Roedd mwyafrif o'r bobl am weld cynnig arall ger bron y Cenedloedd Unedig cyn mynd i ryfel.

Mae yna hefyd gysylltiadau economaidd a masnachol cryf rhwng y ddwy wlad: yr Unol Daleithiau yw marchnad fwyaf y Deyrnas Unedig. Cynrychiola'r Deyrnas Unedig rhyw 17% o holl fuddsoddiad uniongyrchol tramor yr Unol Daleithiau, a'r DU yw prif dderbynnydd buddsoddiad uniongyrchol tramor yr UD.[8]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) St Malo: Britain and France working together in Africa. Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Adalwyd ar 21 Tachwedd, 2007.
  2. (Saesneg) Zimbabwe: UK Approach to Land Reform. Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Adalwyd ar 21 Tachwedd, 2007.
  3. (Saesneg) Countries & Regions: The Caribbean. Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Adalwyd ar 11 Tachwedd, 2007.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Country Profiles: Pakistan. Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Adalwyd ar 3 Chwefror, 2008.
  5. 5.0 5.1 (Saesneg) Russia wants normal ties with UK. BBC. Adalwyd ar 23 Tachwedd, 2007. "tit-for-tat expulsions of diplomats"
  6. 6.0 6.1 (Saesneg) Country Profiles: Russia. Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Adalwyd ar 23 Tachwedd, 2007.
  7. (Saesneg) Giles, Chris (27 Gorffennaf, 2007). Ties that bind: Bush, Brown and a different relationship. Financial Times. Adalwyd ar 11 Tachwedd, 2007.
  8. (Saesneg) Country Profiles: United States of America. Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Adalwyd ar 11 Tachwedd, 2007.

Cysylltiadau allanol[golygu]