Cystennin IV

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darn arian solidus yn dangos Cystennin IV a'i frodyr.

Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 668 a 685 oedd Cystennin IV, Groeg: Κωνσταντίνος Δ', Kōnstantinos IV (652 - Medi 685). Gelwir ef yn Pogonatos, "y Barfog", weithiau, ond ymddengys mai camgymeriad yw hyn, ac mai ei dad a elwid felly.

Roedd Cystennin yn fab i'r ymerawdwr Constans II a'i wraig Fausta. Pan lofruddiwyd Constans yn 668, daeth Cystennin i'r orsedd fel Cystennin IV. Roedd yr ymerodraeth dan beysau oddi wrth yr Arabiaid yn y cyfnod hwn, a bu raid i Gystennin ymladd llawer yn eu herbyn. Gyrroedd y Califf Muawiyah I ei fab Yazid gyda byddin i ymosod ar yr ymerodraeth yn 668, a chyrhaeddodd cyn belled a Chalcedon. Yn 669, ymosododd yr Arabiaid ar Carthago a Sicilia.

Yn 670, cipiodd yr Arabiaid Benrhyn Cyzicus ac yn 674 gosodasant ddinas Caergystennin ei hun dan warchae. Gorfodwyd hwy i godi'r gwarchae ac encilio yn 678, yn rhannol oherwydd arf newydd oedd wedi ei ddyfeisio gan y pensaer a mathenategydd Kallinikos, y Tân Groegaidd a roddodd fantais fawr i'r ymerodraeth.

Bu Cystennin yn ymladd yn erbyn y Proto-Bwlgariaid dan Asparukh, gyda llwyddiant ar y cychwyn, ond pan orfodwyd Cystennin gan afiechyd i adael ei fyddin, gorchfygwyd hwy yn 680. Bu raid i'r Bysantiaid ofyn am delerau heddwch yn 681, gan dalu teyrnged flynyddol. Bu farw Cystennin yn 685, ac olynwyd ef gan ei fab, Justinianus II.