Cystennin III (ymerawdwr Rhufeinig)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cystennin III ar ddarn arian.

Cadfridog Rhufeinig a’i cyhoeddodd ei hun ym ymerawdwr oedd Cystennin III, enw llawn Flavius Claudius Constantinus (bu farw tua 18 Medi 411). Cyhoeddodd ei hyn yn ymerawdwr Ymerodraeth Rhufain yn y gorllewin yn 407.

Roedd Cystennin yn filwr yn nhalaith Prydain, lle roedd milwr arall, Gratian, wedi ei gyhoeddi ei hun yn ymerawdwr. Ar 31 Rhagfyr 406, roedd nifer o lwythau Almaenig, yn eu plith y Fandaliaid, Bwrgwndiaid a’r Alaniaid, wedi croesi afon Rhein, oedd wedi rhewi. Dinistrwyd amddiffynfeydd yr ymerodraeth ar y ffin, a meddiannodd yr Almaenwyr rannau helaeth o Gâl. Ym Mhrydain, llofruddiwyd Gratian, a chyhoeddodd Cystennin ei hun yn ymerawdwr yn nechrau 407. Croesodd i Gâl gyda byddin, a dywedir iddi gymeryd y mwyafrif o’r milwyr Rhufeinig oedd ym M hrydain gydag ef, gan adael y dalaith yn ddiamddiffyn.

Gorchfygwyd dau gadfridog Cystennin, Justinianus a Nebiogastes, gan Sarus, dirprwy Stilicho. Fodd bynnag gyrroedd Cystennin fyddin arall, dan Edobich a Gerontius, a gorfodwyd Sarus i encilio i'r Eidal. Llwyddodd Cystennin i gael rheolaeth ar ffin afon Rhein, a sefydlodd ei brifddinas yn Arles erbyn mis Mai 408, gan warchod y ffin rhwng Gâl ar Eidal yn erbyn byddin yr ymerawdwr Honorius. Gallodd orfodi Honorius i’w dderbyn fel cyd-ymerawdwr. Fodd bynnag, yn 409, gwrthryfelodd ei gadfridog Gerontius yn ei erbyn, a throdd trigolion Prydain yn ei erbyn am ei fod wedi eu gadael heb amddiffyniad yn erbyn y Sacsoniaid, oedd yn ymosod tros y môr. Ymosododd Cystennin ar yr Eidal, ond methodd ei ymgyrch, ac erbyn dechrau 410 roedd wedi gorfod dychwelyd i Gâl.

Gwarchaewyd arno yn Arles, a bu raid iddo ildio. Dienyddiwyd ef yn Awst neu Fedi 411. Gellir ystyried mai ei ymadawiad ef o Brydain gyda’r fyddin oedd diwedd Prydain Rufeinig.

Mae'n ymddangos fel cymeriad yn ffug-hanes Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae, lle mae'n ennill grym wedi i Gracianus Municeps gael ei lofruddio.