Cypress, Texas
Oddi ar Wicipedia
Ardal yn Swydd Harris, Texas, Unol Daleithiau yw Cypress (neu Cy-Fair, Cypress-Fairbanks). Saif Cypress yn agos at draffordd yr 290. Mae hi tua 25 milltir i'r gogledd-orllewin o Downtown Houston, Texas. Yng Nghyfrifiad yr Unol Daleithiau (2010), amcangyfrifwyd fod tua 122,803 o bobl yn byw yn y codau post a labelwyd fel Cypress.