Cynthia Nixon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cynthia Nixon ar noson agoriadol Sex and the City: The Movie yn 2008

Mae Cynthia Ellen Nixon (ganed 9 Ebrill, 1966) yn actores Americanaidd sydd wedi ennill Gwobr Tony a dwy Wobr Emmy. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei phortread o'r cyfreithiwr Miranda Hobbs yn y gyfres deledu HBO a'r ffilm boblogaidd Sex and the City (1998-2004, 2008).

Bywgraffiad[golygu]

Ei Bywyd Cynnar a'i Gyrfa[golygu]

Ganwyd Nixon yn Ninas Efrog Newydd, Efrog Newydd yn ferch i'r actores Anne Kroll a newyddiadurwr radio, Walter Nixon. Ymddangosodd ar y sgrîn am y tro cyntaf fel twryllwraig ar To Tell the Truth, lle gweithiai ei mam. Dechreuodd actio pan oedd yn 12 oed ar The Seven Wishes of a Rich Kid, rhaglen ar ABC ym 1979. Perfformiodd mewn ffilm am y tro cyntaf yn Little Darlings (1980) gyda Kristy McNichol a Tatum O'Neal. Ymddangosodd ar Broadway am y tro cyntaf fel Dinah Lord yn ail-gread 1980 o The Philadelphia Story.


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.