Cynnwys rhydd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cynnwys agored)
Gwahanol drwyddedau Comin Creu, a'r rhai y medrwn eu defnyddio ar Wicipedia.

Cyfeiria'r term cynnwys rhydd, neu wybodaeth rydd, at unrhyw fath o waith at bwrpas, gwaith celf, neu gynnwys heb unrhyw gyfyngiad cyfreithiol arwyddocaol ar ryddid pobl i ddefnyddio, dosbarthu copïau, addasu a dosbarthu gwaith sy'n tarddu o'r cynnwys.[1] Mae'n wahanol i gynnwys agored; gellir addasu cynnwys neu ffeiliau "rhydd"; nid yw bob amser yn bosib gwneud hynny gyda ffeiliau "agored".

Mae cynnwys rhydd yn cwmpasu'r holl weithiau sydd yn y parth cyhoeddus a'r gweithiau hynny sydd â hawlfraint arnynt sydd â thrwyddedau sy'n parchu ac ategu'r rhyddid y sonir amdano uchod. Am fod cyfraith hawlfraint yn rhoi rheolaeth fonopoliaidd i ddeiliaid gweithiau yn awtomatig dros eu creadigaethau yn y mwyafrif o wledydd, rhaid nodi cynnwys sydd â hawlfraint arno'n rhydd, fel arfer drwy gynnwys cyfeiriadau neu gynnwys datganiadau trwyddedu o fewn y gwaith.

Er yr ystyrir darn o waith sydd yn y parth gyhoeddus am fod ei hawlfraint wedi dirwyn i ben yn rhydd, gallai ddod yn an-rhydd unwaith eto gan ddod yn an-rhydd neu anghyfreithlon os yw'r gyfraith hawlfraint yn newid.[2]

Datblygiadau diweddar gyda data[golygu | golygu cod]

Yn 2011 cyhoeddodd y Canghellor George Osborne ei fwriad i sefydlu Sefydliad y Data Rhydd (Saesneg: Open Data Institute) i hyrwyddo rhannu data er mwyn gweld twf o fewn byd busnes[3]. Bydd y sefydliad yn cael ei reoli gan ddyfeisiwr y we fyd-eang, sef Sir Tim Berners-Lee, a'r Athro Nigel Shadbolt o Brifysgol Southampton.

O fewn ychydig wythnosau i'r cyhoeddiad cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ei fod yn agor ei ddrysau i wybodaeth i'r cyhoedd am ddim drwy bortal data newydd. Bydd hyn yn gosod y safon led led Ewrop ac yn rhoi £85m o arian ar sut i wella trin a thrafod data.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Stallman, Richard (November 13, 2008). "Free Software and Free Manuals". Free Software Foundation. Cyrchwyd March 22, 2009.
  2. EU caves to aging rockers, wants 45-year copyright extension Ars Technica. Nate Anderson. 16 Gorffennaf, 2008. Adalwyd ar 8 Awst, 2008
  3. "Gwefan Sefydliad y Data Rhydd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-15. Cyrchwyd 2012-07-16.