Cyngor Celfyddydau Cymru
Oddi ar Wicipedia
Corff cyhoeddus sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu'r celfyddydau yng Nghymru yw Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) (Saesneg: The Arts Council of Wales). Fe'i sefydlwyd yn 1994 dan Siarter Frenhinol. Daeth yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 1 Gorffennaf 1999 pan drosglwyddwyd y cyfrifoldeb oddi ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel un o gamrau cyntaf datganoli. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i CCC i hyrwyddo'r celfyddydau yn y wlad. Mae CCC yn dosrannu arian gan y Loteri Genedlaethol hefyd, a nodir gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan.
Mae Cyngor Rheoli CCC yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn. Dydi aelodau'r cyngor ddim yn cael eu talu; caent eu hapwyntio i'r swydd gan Lywodraeth Cymru. Mae gan CCC swyddfeydd ym Mae Colwyn, Caerfyrddin a dinas Caerdydd. Y prif weithredwr presennol, ers 2003, yw Peter Tyndall.
Mae'r Cyngor yn un o aelodau corfforaethol y Sefydliad Materion Cymreig.
Ar sawl achlysur mae rhai pobl wedi beirniadu CCC, sy'n un o'r "cwangos" gwreiddiol, am fod yn elitaidd - e.e. gwario miliwnau ar opera - ac am fod yn rhy ddosbarth canol, sefydliadol, a Seisnigaidd.
[golygu] Dolenni allanol
- Gwefan swyddogol (rhannol dwyiethog)

