Cyngerdd Cymorth Tsunami

Oddi ar Wicipedia
Cyngerdd Cymorth Tsunami
Enghraifft o'r canlynolgŵyl gerddoriaeth Edit this on Wikidata

Cyngerdd a gynhaliwyd yng Nghaerdydd i godi arian i drueiniaid Tsunami Cefnfor India 2004 oedd y Cyngerdd Cymorth Tsunami. Trefnwyd y cyngerdd mewn tair wythnos yn unig ac roedd dros chwe deg mil yn Stadiwm y Mileniwm i gefnogi'r cyngerdd. Llwyddwyd i gael nifer o brif gerddorion Cymru i gymryd rhan, yn ogystal â rhai o wledydd eraill. Ymhlith yr artistiaid roedd Katherine Jenkins, Lulu, Charlotte Church, Eric Clapton, y Manic Street Preachers a Jools Holland

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.