Cynfarch fab Meirchion

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cynfarch ap Meirchiawn)
Cynfarch fab Meirchion
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Bu farw570 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
TadMeirchion Gul Edit this on Wikidata
PriodNefyn ach Brychan Edit this on Wikidata
PlantUrien Rheged, Llew ap Cynfarch Edit this on Wikidata

Brenin o'r Hen Ogledd oedd Cynfarch fab Meirchion (bl. hanner cyntaf y 6g) neu Cynfarch Gul. Roedd yn ddisgynnydd i'r brenin Coel Hen ac yn dad i Urien Rheged, brenin Rheged. Mae'r ychydig a wyddys amdano yn seiliedig ar dystiolaeth yr achau Cymreig yn bennaf. Yn y traddodiad Cymreig fe'i cymysgir yn aml â'r arwr chwedlonol March ap Meirchion a rhai o seintiau cynnar Cymru (gweler Cynfarch).

Yn ôl Bonedd Gwŷr y Gogledd, roedd Cynfarch yn fab i'r brenin Meirchion (Meirchiawn) fab Gorwst Ledlwm fab Cenau fab Coel. Roedd yn frawd i Elidir Lydanwyn ac felly'n ewythr i Llywarch Hen. Trwy amyfusedd, yn ôl pob tebyg, priodolwyd mab o'r enw Llew fab Cynfarch iddo pan addaswyd Brut y Brenhinedd i'r Gymraeg yn yr Oesoedd Canol.

Nid enillodd Cynfarch fab Meirchion le yn nhraddodiadau cynnar Cymru ac mae ei enw yn digwydd gan amlaf fel tad Urien Rheged yn unig. Mae'n debyg ei fod yn frenin Rheged ar ddiwedd y 5g a dechrau'r ganrif olynol ac felly wedi cymryd rhan yn y brwydro cynnar yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid (Deifr, Brynaich) yn yr Hen Ogledd. Ymddengys fod Urien wedi etifeddu teyrnas Rheged ar ei farwolaeth.

Cyfeirir ato weithiau fel Cynfarch Gul, ar ôl ei dad Meirchion Gul. Yn ôl De situ Brecheiniauc, sy'n ymwneud â hanes teyrnas Brycheiniog, priododd Cynfarch (Kenuarch Gul) Nifain (Nyvein), un o ferched niferus Brychan Brycheiniog, ond credir nad oes sail i'r traddodiad diweddarach hwnnw.

Ceir sawl Cynfarch arall yn hanes a thraddodiad Cymru ac yn naturiol ddigon mae Cynfarch fab Meirchion yn cael ei gymysgu â nhw. Yr enghraifft bennaf o hyn yw'r chwedl enwog am Farch ap Meirchion, sy'n rhan o chwedl Trystan ac Esyllt, y ceir chwedl werin amdano wedi'i lleoli yn Llŷn hefyd. Mae'n bosibl fod Meirchion, tad March, yn frenin cynnar ym Morgannwg. Cyfeirir at 'Gynfarch' yn Englynion y Clyweit, ond gan fod Cynfarch yn enw ar sawl sant yng Nghymru does dim modd ei uniaethu â'r Cynfarch o'r Hen Ogledd. Cysylltir sant o'r enw Cynfarch â Llanfair Dyffryn Clwyd hefyd, ond unwaith eto does dim modd profi cysylltiad rhyngddo a brenin Rheged. Yn ôl traddodiad, sefydlodd Cynfarch arall, un o ddisgyblion Dyfrig Sant, gell yn Llangynfarch (Cas-gwent).

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991). Atodiad II, a'r nodyn ar dud. 322.