Cynan (brudiau)

Oddi ar Wicipedia

Cymeriad sy'n ymddangos yn y canu brud Cymreig fel gwaredwr yw Cynan. Fel rheol, ymddengys gyda Cadwaladr. Ceir y cyfeiriadau cynharaf y gellir eu dyddio yn y gerdd Armes Prydain o'r 10g. Ceir cyfeiriad at y ddau yn Glaswawt Taliesin yn Llyfr Taliesin hefyd, ac yn y cerddi a briodolir i Fyrddin yn Llyfr Du Caerfyrddin.

Yng ngwaith Sieffre o Fynwy, mae Myrddin yn proffwydo y bydd Cynan yn dod o Lydaw, sy'n awgrymu mai at Cynan Meiriadog y mae'n cyfeirio, ond fel arall ni ellir bod yn sicr at bwy y cyfeirir.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Peter C. Bartrum (1993) A Welsh classical dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN 0-907158-73-0