Cyn Oeri'r Gwaed

Oddi ar Wicipedia

Cyfrol o ysgrifau gan Islwyn Ffowc Elis yw Cyn Oeri'r Gwaed, fu'n gyfrol fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1951.

Ceir un ar bymtheg o ysgrifau yn y casgliad. Myfyrdodau ar droeon bywyd, natur, ffawd a sawl pwnc arall a geir ynddynt, gyda nifer ohonynt wedi eu ysbrydoli gan fro'r awdur yn Nyffryn Ceiriog. Mae'r arddull yn gain ond yn agos-atoch ac mae dawn y llenor am ddisgrifio byd natur yn amlwg.

Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf gan Gwasg Aberystwyth yn 1952, gyda pedwar llun du-a-gwyn gan John Griffith Williams a siaced lwch gan E. Meirion Roberts. Fe'i cafwyd sawl argraffiad arall ar ôl hynny.

Dyma'r cynnwys y casgliad:

  • Rhagair gan T. J. Morgan
  • "Adfwy"
  • "Melodi"
  • "Sut i Yrru Modur"
  • "Ar Lwybrau Amser"
  • "Gwrychoedd"
  • "Hyfydwch y Gwir Grefftwr"
  • "Eiliadau Tragwyddol"
  • "Y Ddannodd"
  • "Dyn yw Dyn"
  • "Mudo"
  • "Y Sais"
  • "Mynd i'r Lleuad"
  • "Craig y Pandy"
  • "Pe Bawn i'n Wybedyn"
  • "Tai"
  • "Cyn Mynd"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.