Cymorth:Dolenni

Oddi ar Wicipedia

Mae'r dudalen hon yn cynnwys cymorth technegol ar greu hypergysylltiadau ar Wicipedia, gan alluogi darllenwyr i gael mynediad un-clic i dudalennau eraill ar Wicipedia, prosiectau eraill Wikimedia a gwefannau allanol. Am wybodaeth syml iawn, gweler y dudalendwyllo. Am ganllawiau ynglyn â sut y dylid defnyddio dolenni o fewn Wicipedia, gweler Wicipedia:Dolenni.

DolenniWici[golygu | golygu cod]

Mae dolenwici neu ddolen fewnol yn cysylltu â thudalen o fewn y Wicipedia Cymraeg.

  • Mae [[a]] yn rhoi a (wedi ei gysylltu gydag a, wedi ei labeli a).
  • Mae [[a|b]] yn rhoi b (wedi ei gysylltu gydag a, wedi ei labeli b). I ddysgu sut i deipio y symbol Piben gweler Wicipedia:Dolen biben
  • Mae [[a]]b yn rhoi ab, yn union yr un peth a [[a|ab]] : ab.
  • Mae [[a|b]]c yn rhoi bc, yn union yr un peth a [[a|bc]]: bc.
  • Mae [[a]]:b yn rhoi a:b (nid atodir atalnodi i'r ddolen). Mae'r un peth yn wir am [[Washington]]'s neu e-[[bost]].
  • Mae a[[b]] yn rhoi ab.
  • Mae [[a]]<nowiki>b</nowiki> yn rhoi ab.
  • Mae [[a]]''b'' yn rhoi ab.
  • Mae ''[[a]]''b yn rhoi ab.
  • Mae [[a|b]]c<nowiki>d</nowiki> yn rhoi bcd.

Gelwir dolenni sydd â label penodol yn "dolen biben" oherwydd defnyddir y symbol piben sef ( | ). Am fathau penodol o ddolenni, creir y label yn awtomatig os caiff piben ei deipio heb label ar ei ôl (sy'n golygu nad oes rhaid i chi ei aildeipio). Gweler Cymorth:Triciau piben.

Mae targed y ddolen yn sensitif i brif lythrennau ag eithrio'r llythyren gyntaf (felly byddai atom yn cysylltu i Atom, ond nid yw ATom).

Os nad yw targed y ddolenwici yn bodoli, caidd ei arddangos yn goch, ac fe'i gelwir yn ddolengoch. Os clicir ar ddolen goch, bydd y defnyddiwr yn mynd at dudalen lle gellir creu tudalen o dan y teitl dolengoch. Gellir dod o hyd i deitlau penodol sydd heb eu creu eto drwy ddefnyddio'r nodwedd Erthyglau sydd eu hangen.

Dolenni Rhyngwici[golygu | golygu cod]

Mae dolen rhyngwici yn cysylltu â thudalen ar un o wefannau eraill prosiectau Wikimedia, megis Meta neu Wicipedia mewn iaith wahanol. Rhaid i'r wefan darged fod ar yr un map rhyngwici a nodir fel y wici ffynhonnell. Mae gan y dolenni hyn yr un gystrawen [[...]] a dolennauwici(gweler uchod), ond cymrant rhagddodiad sy'n nodi'r wefan darged. Er enghraifft, cysyllta [[m:Help:Link]] i'r dudalen "Help:Link" Meta. Gellir defnyddio dolenni piben fel gyda dolennauwici. Cofiwch y dylai dolenni rhyngieithog ddod ar ôl colon os yw i fod cael ei arddangos lle mae'n ymddangos yn y testun; fel arall bydd yn cael eu restru ar ochr y dudalen (sy'n addas os mae'r dyna'r dudalen cyfatebol agosaf mewn iaith arall ar Wicipedia yn unig).

Arddangosir dolenni rhyngwici (fel dolenni allanol) mewn lliw glas golau sydd ychydig yn oleuach na dolennau wici cyffredin. Nid yw MediaWiki yn gwybod os yw'r tudalennau targed hyn yn bodoli, ac felly ni chânt eu harddangos yn goch.

Cysylltu ag adran benodol ar dudalen (angorau)[golygu | golygu cod]

Er mwyn creu dolen i adran benodol ar dudalen, defnyddiwch y gystrawen ganlynol:

  • Mae [[#B]] yn cysylltu â'r adran o'r enw "B" ar y dudalen gyfoes (er enghraifft, mae #Wiciddolenni yn cysylltu â'r adran Wiciddolenni ar y dudalen hon).
  • Mae [[A#B]] yn cysylltu â'r adran o'r enw "B" ar dudalen "A".

Mewn gwirionedd, mae teitl yr adran yn cyfeirio at angor ar y dudalen darged. Gellir diffinio angor ar wahan i deitlau adrannau amlwg, drwy ddefnyddio'r côd HTML <span id="anchor_name">...</span>, neu'r nodyn {{Anchor|enw angor}} (gweler cystrawen {{Anchor}}). Fodd bynnag, neilltuir [[#top]] ar gyfer dolen sy'n cysylltu â brig y dudalen.

Mae dolenni adran yn gweithio hefyd os yw'r ddolen wici yn ailgyfeiriad (er enghraifft, os yw Bombay yn ailgyfeirio at Mumbai, yna bydd Bombay#Adeiladau a chofadeiladau yn cyfeirio i'r adran "Adeiladau a chofadeiladau" ar y dudalen Mumbai). Gellir gosod dolenni adran o fewn ailgyfeiriadau hefyd (mae rhain yn gweithio os yw'r javascript wedi ei alluogi yn unig). Er enghraifft, mae Wicipedia:Dolen adran yn ailgyfeirio at Cymorth:Dolen#Dolenni adran (angorau). Sylwer fod dolen adran amlwg yn anwybyddu unrhyw ddolen adran mewn ailgyfeiriad, felly byddai Wicipedia:Dolen adran#Dolenni Rhyngwici yn mynd i'r adran "Dolenni rhyngwici" ar y dudalen hon.

Am fwy o wybodaeth, gweler Cymorth:Adran.

Gellir ychwanegu dolenni angor i URLs allanol a dolenni rhyngwici, drwy ddefnyddio'r gystrawen # unwaith eto. Sylwer os yw enw'r dudalen yn cael ei throsi'n awtomatig, yna bydd dolen yr adran yn parhau i weithio, ond bydd yn diflannu o'r bar cyfeiriad (mae hyn yn ei gwneud yn anoddach i bookmark yr adran ei hun).

Dolenni is-dudalennau[golygu | golygu cod]

Mewn "namespace" lle mae'r nodwedd is-dudalen wedi ei galluogi (na sydd yn cynnwys gwagle erthygl Wicipedia), gellir defnyddio'r dolenni perthnasol canlynol:

  • Mae [[../]] yn cysylltu â rhiant o'r is-dudalen gyfoes, e.e., ar A/b mae'n cysylltu gydag A, ar A/b/c mae'n cysylltu gydag A/b.
  • Mae [[../s]] yn cysylltu â chwaer dudalen yr is-dudalen bresennol, e.e., ar A/b, mae'n cysylltu â A/s.
  • Mae [[/s]] yn cysylltu ag is-dudalen, e.e. ar A mae'r un peth a [[A/s]].

Gellir dod o hyd i fwy o fanlylion ar m:Help:Link#Subpage feature.

Dolenni awtomatig ISBN, RFC a PMID[golygu | golygu cod]

Mae dolenni i'r eitemau hyn yn cael eu creu'n awtomatig, heb orfod defnyddio cromfachau sgwâr:

  • Mae côdau ISBN yn creu dolenni'n awtomatig, er enghraifft: byddai'r sy'n cyfateb i Special:Booksources/9780123456789.
  • Mae RFC 4321 yn dod yn RFC 4321, sef y ddolen allanol i'r safonol yn: http://tools.ietf.org/html/rfc4321.
  • Mae PMID 12345678 yn dod yn PMID 12345678, sy'n cysylltu â chyfeiriad yn llenyddiaeth meddygol PubMed.

Er mwyn atal dolenni awtomatig o'r math hwn, rhowch dagiau <nowiki>...</nowiki> o amgylch y testun perthnasol.

Newid ymddangosiad dolen[golygu | golygu cod]

Mae'r ffordd mae'r dolenni gwahanol a ddisgrifir uchod yn cael eu harddangos mewn porwyr, yn arddulliau arddangos rhagosodedig sef y crwyn rhagosodedig. Gall defnyddwyr newid y modd y maent yn gweld dolenni drwy:

  • ddewis croen gwahanol;
  • osod arddull defnyddiwr gan ddefnyddio CSS;
  • newid y gwerth "Tanlinellu dolenni" neu "Fformatio dolenni gwallus fel hyn" ar y tab "Ymddangosiad" sydd yn yr adran dewisiadau defnyddiwr;
  • osod y "Trothwy ar gyfer fformatio cyswllt eginyn (beitiau)" ar y tab Ymddangosiad ar y dewisiadau defnyddiwr. Mae hyn yn achosi i ddolenni mewn prif barth i gael ei arddangos mewn modd amlwg – coch tywyll yn rhagosodedig – ios oes gan y dudalen darged lai na swm penodol o feitiau. (Anwybyddir unrhyw farcwyr adrannol yn y ddolen. Arddangosir dolenni i ailgyfeiriadau yn y dull arferol.)