Ceir nifer o gymeriadau chwedlonol yn y traddodiad Cymreig. Cedwir eu henwau a chwedlau amdanynt yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol fel y Mabinogi a gwaith y Cynfeirdd ac mewn chwedlau llên gwerin . Weithiau mae'r cymeriadau hyn yn ffrwyth y dychymyg yn unig, fel yn achos rhai o arwyr Culhwch ac Olwen , ond credir fod nifer ohonyn nhw naill ai'n dduwiau a duwiesau Celtaidd yn wreiddiol neu gymeriadau hanesyddol neu led-hanesyddol a drowyd yn ffigurau chwedlonol (e.e. Taliesin , Myrddin , Maelgwn Gwynedd ac Arthur ). Mae eraill yn fodau goruwchnaturiol neu gewri ac yn perthyn i fyd llên gwerin.
Afallach , cymeriad chwedlonol
Afaon fab Taliesin , mab Taliesin Ben Beirdd
Amaethon fab Dôn , cymeriad yn y chwedl Culhwch ac Olwen
Arawn brenin Annwfn
Arglwyddes Llyn y Fan
Arianrhod , duwies Geltaidd yn y Mabinogi
Arthur , yr arwr Cymreig enwocaf: y Brenin Arthur
Bedwyr , un o farchogion Arthur
Beli Mawr , cawr a brawd Branwen yn y Pedair Cainc
Bendigeidfran neu Brân Fendigaid
Benlli Gawr , cawr neu frenin cynnar ar Bowys
Blodeuwedd , a greuwyd o flodau gan Gwydion
Brân Galed , arwr o'r Hen Ogledd
Branwen ferch Llŷr , yn y Pedair Cainc
Cadriaith fab Saidi , cymeriad chwedlonol
Canthrig Bwt , gwrach yn Eryri
Caradog Freichfras , arwr
Caswallon fab Beli , un o feibion Beli Mawr
Cei , un o farchogion Arthur
Ceridwen , gwraig Tegid Foel
Cigfa , cymeriad yn y Pedair Cainc
Creiddylad , cymeriad yn y chwedl Culhwch ac Olwen
Creirwy ferch Ceridwen
Culhwch , arwr y chwedl Culhwch ac Olwen
Custennin Heusor , cawr o fugail yn y chwedl Culhwch ac Olwen
Cyhyraeth , drychiolaeth annaearol
Dôn , duwies fawr
Drudwas fab Driffin , arwr
Drystan fab Trallwch , arwr yn y Rhamantau
Dylan Ail Don , mab y dduwies Arianrhod yn y Pedair Cainc
Efnysien , gefaill Nisien
Eigr , mam y Brenin Arthur
Elen Luyddog , arwres y chwedl Breuddwyd Macsen
Elffin ap Gwyddno , mab Gwyddno Garanhir a noddwr Taliesin Ben Beirdd
Eluned , merch yn y Tair Rhamant
Enid ferch Yniwl Iarll , merch yn y Tair Rhamant
Eog Llyn Llyw , sy'n cynorthwyo'r ymchwil am Fabon fab Modron
Esyllt , merch hardd yn y Tair Rhamant a thraddodiadau eraill
Euroswydd , ail(?) ŵr Penarddun
Garwen ferch Henin Hen , un o gariadon Arthur
Geraint fab Erbin , arwr un o'r Tair Rhamant
Gilfaethwy fab Dôn , cymeriad yn y Pedair Cainc
Goewin , y forwyn sy'n dal traed Math fab Mathonwy yn ei lys
Gofannon fab Dôn , cymeriad yn y Pedair Cainc
Gogfran Gawr - tad Gwenhwyfar
Goreu fab Custennin , arwr sy'n cynorthwyo Culhwch i ennill Olwen
Gwenhwyfach , chwaer Gwenhwyfar
Gwenhwyfar , gwraig Arthur
Gwen Teir Bron , duwies neu santes
Gwgon Gleddyfrudd , arwr (Gwgon ap Meurig efallai, m. 871)
Gwrach y Rhibyn , drychiolaeth
Y Gŵr Blewog , cymeriad llên gwerin yn Eryri
Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd , cymeriad yn Culhwch ac Olwen
Gwydion fab Dôn , dewin enwog y Pedair Cainc
Gwyddno Garanhir , brenin traddodiadol Cantre'r Gwaelod
Gwyn ap Nudd , brenin y Tylwyth Teg
Gwythyr ap Greidawl , cymeriad yn y chwedl Culhwch ac Olwen
Hafgan , gwrthwynebydd Arawn brenin Annwn
Huail mab Caw , rhyfelwr a laddwyd gan Arthur
Hu Gadarn (arwr a greuwyd gan Iolo Morgannwg )
Idris Gawr , a gysylltir â Cader Idris
Indeg , merch ddiarebol ddeg, un o gariadon Arthur
Luned (Eluned Ddedwydd ), llawforwyn Iarlles y Ffynnon
Llefelys , brenin Ffrainc yn y chwedl Cyfranc Lludd a Llefelys
Lleu Llaw Gyffes , duw ac arwr yn y Pedair Cainc
Lludd fab Beli , brenin Ynys Prydain yn Cyfranc Lludd a Llefelys
Lludd Llaw Eraint , cymeriad mytholegol
Llŷr (Llŷr Llediaith ), duw Celtaidd
Llywarch Hen , awdur traddodiadol Canu Llywarch Hen
Mabon fab Modron , arwr y ceir ei hanes yn chwedl Culhwch ac Olwen
Maelgwn Gwynedd , brenin hanesyddol sy'n troi'n ffigwr llên gwerin
Manawydan , fab Llŷr yn y Pedair Cainc
Math fab Mathonwy , un o arwyr y Pedair Cainc
Matholwch , brenin Iwerddon
Mathonwy , tad Math fab Mathonwy yn y Pedair Cainc
Medrawd , gelyn Arthur
Modron , mam Mabon
Morfran , fab Ceridwen
Myrddin , dewin a bardd chwedlonol neu led hanesyddol
Nisien , gefaill Efnysien
Nudd Hael , un o arwyr yr Hen Ogledd
Nudd Llaw Eraint (Lludd Llaw Eraint )
Olwen , cariad Culhwch yn y chwedl Culhwch ac Olwen
Penarddun , merch neu chwaer Beli Mawr
Peredur fab Efrawg , arwr un o'r Tair Rhamant
Plant Rhys Ddwfn , bodau tebyg i'r Tylwyth Teg a gysylltir â Bae Ceredigion
Pryderi , mab Pwyll a Rhiannon
Pwyll Pendefig Dyfed
Rhiannon , duwies yn y Pedair Cainc
Rhita Gawr , cawr a gysylltir ag Eryri
Seithenyn , a gysylltir â chwedl Cantre'r Gwaelod
Sgilti Ysgafndroed , cymeriad o Culhwch ac Olwen
Taliesin Ben Beirdd , y Taliesin chwedlonol
Tegau Eurfron , duwies a santes
Tegid Foel , gŵr Ceridwen a gysylltir â Llyn Tegid ger y Bala
Teyrnon Twrf Liant , cymeriad yn y Mabinogi
Y Tylwyth Teg , bodau goruwchnaturol
Y Twrch Trwyth , baedd ffyrnig yn chwedl Culhwch ac Olwen
Ysbaddaden Bencawr , cawr yn y chwedl Culhwch ac Olwen
Uthr Bendragon , tad y brenin Arthur , yn ôl Sieffre o Fynwy