Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol
Enghraifft o'r canlynolorgan awdurdod Edit this on Wikidata

Sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1880 er mwyn cynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ŵyl flynyddol. Dan nawdd y gymdeithas hon cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Merthyr Tudful yn 1881 a chynhaliwyd eisteddfod yn ddifwlch wedyn ar wahan i 1914 a 1940. Daeth gyrfa'r Gymdeithas fel sefydliad i ben yn 1952 pan sefydlwyd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol fel corff llywodraethol yr Eisteddfod.[1]

Daeth y sbardun i sefydlu'r Gymdeithas o bapur ar ddiwygio'r Eisteddfod a ddarllenwyd gan Hugh Owen yng Nghaernarfon yn 1880. Fel canlyniad i ddarlith Hugh Owen, penderfynwyd sefydlu corff newydd - Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol - i lywio'r Eisteddfod a gofynnwyd i T. Marchant Williams fod yn ysgrifennydd cyffredinol. Bu cyfarfod pwyllgor yn Amwythig ym Medi 1880 a phendefynwyd trefnu'r cyfarfod cyffredinol cyntaf i baratoi ar gyfer Eisteddfod Merthyr Tudful yn Awst 1881.[2]

Prif waith y Gymdeithas oedd hel arian ar gyfer gwobrau'r Eisteddfod, penderfynu ar leoliad yr Eisteddfod bob blwyddyn a threfnu i gael maes a phabell, cynnal Gorsedd, trefnu rhaglen yr Eisteddfod bob blwyddyn a chyhoeddi Trafodion.[2]

Lluniwyd Rheolau'r Gymdeithas ym Mangor yn 1890. Fel rhan o'r rheolau newydd roedd pob aelod o Orsedd y Beirdd i fod yn aelod llawn o'r Gymdeithas. Ymddengys mai bargen rhwng T. Marchant Williams a Hwfa Môn oedd hyn a bu cryn anfoddlonrwydd ynglŷn â'r cytundeb am flynyddoedd ar ôl hynny.[2]

Dan reolaeth y Gymdeithas, llwyddwyd i gynnal Eisteddfod yn flynyddol, a hynny bob yn ail yn y De a'r Gogledd (ac eithrio 1914 a 1940). Daeth y Gymdeithas i ben yn 1952. Yn 1937 roedd y Gymdeithas a'r Orsedd wedi penderfynu i gyfuno'r ddau gorff i greu Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd cyfansoddiad newydd yn 1952 a sefydlodd Lys yr Eisteddfod Genedlaethol fel corff llywodraethol yr Eisteddfod.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  2. 2.0 2.1 2.2 Melville Richards, "Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg", yn Twf yr Eisteddfod.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]