Cymdeithas y Llysieuwyr

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas y Llysieuwyr
Enghraifft o'r canlynolsefydliad elusennol, clwb Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu30 Medi 1847 Edit this on Wikidata
Gweithwyr26, 27, 28, 29 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://vegsoc.org Edit this on Wikidata

Elusen Prydeinig yw Cymdeithas y Llysieuwyr (Saesneg: Vegetarian Society), a sefydlwyd ar 30 Medi 1847 er mwyn hybu dealltwriaeth a pharch tuag at ffordd o fyw llysieuol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf a gofnodir o Gymdeithas y Llysieuwyr yn Northwood Villa, ysbyty llysieuol yn Ramsgate, Caint yn 1847. Cynhaliwyd eu cyfarfod cyhoeddus cyntaf ym Manceinion y flwyddyn canlynol. Yn 1848, cyhoeddodd y gymdeithas rifyn cyntaf eu cylchgrawn, The Vegetarian.

Honnai'r gymdeithas mai hwy yw'r gymdeithas hynaf i hybu llysieuaeth yn fyd eang, ond mae nifer o gymdeithasau crefyddol hŷn yn y Dwyrain sydd hefyd yn hybu ymataliaeth o gig, ac yn gwahardd niweidio anifeiliaid. Adnabyddwyd llysieuwyr fel "Pythagoreans" cyn sefydliad y gymdeithas. Honnir yn aml i'r term Saesneg "vegetarian" gael ei greu ar 30 Medi 1847 yn eu cyfarfod cyntaf, ond mae Oxford English Dictionary yn dyfynnu dau ddefnydd cynharach, yn 1839 a 1842, ond mae yn dweud mai sefydliad y gymdeithas a oedd yn gyfrifol am ddefnydd cyffredin y gair.

Aelodau o nôd[golygu | golygu cod]

Mae aelodau o nôd yn cynnwys Isaac Pitman, Mahatma Gandhi, Jorja Fox, George Bernard Shaw, Paul, Linda a Stella McCartney.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]