Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1877 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.stjohninternational.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Swyddogion Brigâd Ambiwlans Sant Ioan, Trefynwy.
Canolfan cymorth cyntaf.

Rhwydwaith byd-eang o wasanaethau ambiwlans yw Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan (Saesneg: St John Ambulance Association) sy'n rhan o Urdd Sant Ioan. Mae'n cynnwys 400,000 o aelodau mewn 39 o wledydd.[1] Mae Ambiwlans Sant Ioan yn aml yn gwasanaethu digwyddiadau cyhoeddus mawr,[2] megis cyngherddau,[3] cystadlaethau chwaraeon, a jiwbilïau.[4]

Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1877 gan aelodau Urdd Brydeinig Sant Ioan, oedd yn dymuno hyfforddi aelodau'r cyhoedd mewn cymorth cyntaf. Mewn nifer o ardaloedd Gwledydd Prydain, Ambiwlans Sant Ioan oedd yr unig wasanaeth ambiwlans ar gael nes sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1948. Bu rhai o nyrsiau Sant Ioan yn gofalu am gleifion mewn tai eu hunain. Cyfunodd Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan a Brigâd Ambiwlans Sant Ioan ym 1974.[5]

Rhennir Ambiwlans Sant Ioan yn unedau o wirfoddolwyr a hyfforddir mewn cymorth cyntaf a gofal iechyd yn y cartref. Maent yn dibynnu ar feddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill am gyngor technegol.[6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) St John Ambulance. Urdd Sant Ioan. Adalwyd ar 20 Hydref 2012.
  2. Flabouris, Arthas; Bridgewater, Franklin (1996). "An Analysis of Demand for First-Aid Care at a Major Public Event". Prehospital and Disaster Medicine 11 (1): 48–54. doi:10.1017/S1049023X00042345. http://journals.cambridge.org/action/displayAbstract?fromPage=online&aid=8436894. Adalwyd 20 Hydref 2012.
  3. Hewitt, Susanne; Jarrett, Lyn; Winter, Bob (1996). "Emergency medicine at a large rock festival". Journal of Accident and Emergency Medicine 13: 26–27. doi:10.1136/emj.13.1.26. http://emj.bmj.com/content/13/1/26.full.pdf. Adalwyd 20 Hydref 2012.
  4. (Saesneg) Our history. Ambiwlans Sant Ioan yn Lloegr (a'r Ynysoedd). Adalwyd ar 20 Hydref 2012.
  5. (Saesneg) Our History. Urdd Sant Ioan. Adalwyd ar 20 Hydref 2012.
  6. Prendergast, W. F. (1980). "St. John Ambulance Needs Volunteers". Canadian Family Physician 26: 20. http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC2383505/pdf/canfamphys00262-0022b.pdf. Adalwyd 20 Hydref 2012.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]