Cymdeithas Adeiladu'r Principality

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Adeiladu'r Principality
Math
busnes
Diwydiantbanc
Sefydlwyd1860
PencadlysCaerdydd
Gwefanhttps://www.principality.co.uk Edit this on Wikidata

Cymdeithas adeiladu Gymreig yw Cymdeithas Adeiladu'r Principality (Saesneg: Principality Building Society), hefyd yn cael ei adnabod fel Y Principality, a'i ganolfan yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru. Gydag asedau o £9bn y Principality yw'r gymdeithas adeiladu fwyaf yng Nghymru a'r chweched gymdeithas fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality yn gydfuddiannol, sy'n golygu ei fod yn berchen i'w aelodau yn hytrach na chyfranddalwyr. Mae'n darparu gwasanaethau i'w gleientiaid ar y we, dros y ffôn yn ogystal â drwy ganghennau stryd fawr. Mae'n aelod o Gymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu.

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladau'r Principality yn Heol y Frenhines, Caerdydd, pencadlys Cymdeithas Adeiladu'r Principality

Fe'i sefydlwyd yng Nghaerdydd yn 1860 gan William Sanders fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol.[1] Yn 1914 adeiladwyd Adeiladau'r Principality fel pencadlys y gymdeithas ac mae'r brif swyddfa yno hyd heddiw. Prynwyd nifer o gymdeithasau adeiladu lleol gan y Principality yn y 1970au a fe'i cyfunwyd i'r gymdeithas. Yn 1987 prynodd y Principality asiantau tai Parkhurst a Peter Alan estate agents, ac yn 2014 fe werthwyd yr asiantau cyfunedig i Connells Group am £16.4m.[2] Yn 1989 prynwyd safle drws nesaf i'r pencadlys yn Heol y Brodyr Llwydion ar gyfer swyddfeydd newydd wrth i'r cwmni ehangu ac fe agorwyd Tŷ'r Principality yn 1992.[3][4]

Prynodd Principality y cwmni Loan Link Limited yn 2004. Rhoddodd hyn y cyfle i lansio'r is-gwmni Nemo Personal Finance Ltd yn 2005. Yn 2013 prynwyd Mead Property Services (yn gwasanaethu Swydd Buckingham, Berkshire a Swydd Rydychen) a Thomas George (yn gwasanaethu Caerdydd a de Cymru).

Ar 8 Medi 2015 cyhoeddodd Cymdeithas Adeiladu'r Principality eu bod wedi prynu hawliau enwi Stadiwm y Mileniwm mewn cytundeb 10 mlynedd. O 1 Ionawr 2016 enw'r stadiwm fydd Stadiwm y Principality[5]

Mae Prif Weithredwr Grŵp y Principality, Graeme Yorston, hefyd yn Llysgennad Tywysog Cymru dros Fusnes Cyfrifol.[6] Penodwyd Steve Hughes yn Prif Weithredwr newydd o Mawrth 2017.[7]

Cyfuniadau a chaffaeliadau[golygu | golygu cod]

Fe gyfunwyd y cymdeithasau adeiladau canlynol fewn i Gymdeithas Adeiladu'r Principality:

  • Cymdeithas Adeiladu Pen-y-bont ar Ogwr yn 1959
  • Cymdeithas Adeiladu Urban yn 1962
  • Cymdeithas Adeiladu Barhaol Maesteg yn 1968
  • Cymdeithas Adeiladu Cydfuddiannol Parhaol Aberafan yn 1974
  • Cymdeithas Adeiladu Abertawe a Chaerfyrddin yn 1974
  • Cymdeithas Adeiladu Barhaol Llanelli yn 1977
  • Cymdeithas Adeiladu District yn 1978
  • Cymdeithas Adeiladu Gorseinon yn 1979
  • Cymdeithas Adeiladu Chatham yn 1985

Gweithrediadau[golygu | golygu cod]

Mae gan y gymdeithas dros 70 o ganghennau ar draws Cymru a rhai dros y ffîn yn Lloegr, ac yn cyflogi tua 1,250 o bobl. Yn 2005 fe ehangodd i ddarparu benthycion personol drwy greu cwmni newydd Nemo Personal Finance Ltd. Yn yr un flwyddyn a chreu Benthycion Nemo, fe ailwampiwyd delwedd y Principality. Enillodd 'Busnes y Flwyddyn 2005' ar gyfer Cymru a De-orllewin Lloegr yng Ngwobrau Busnes Cenedlaethol y DU. Cynyddodd asedau'r grŵp o £4.4bn yn 2005 i £7.3bn yn 2015.

Is-gwmnïau[golygu | golygu cod]

  • Nemo Personal Finance
  • Mead Property Management
  • Thomas George Lettings Agent

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. A CARDIFF & VALE OF GLAMORGAN CHRONOLOGY, Angelfire.com
  2. "Peter Alan Poised for Growth Under new owner". Newsco Insider Limited. 28 Awst 2014. Cyrchwyd 27 Medi 2015.
  3. "Mergers and Name Changes" (PDF). Extract from BSA Yearbook 2013/14. Building Societies Association. 4 Hydref 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-11-09. Cyrchwyd 2 December 2013.
  4. "Our History". principality.co.uk. Cyrchwyd 2016-03-27.
  5. "Millennium Stadium to be renamed Principality Stadium in historic naming rights deal with WRU". Wales Online. Cyrchwyd 27 Medi 2015.
  6. "Principality appoints Graeme Yorston as new Group Chief Executive". Principality Building Society=01 Awst 2012. 13 Hydref 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-22. Cyrchwyd 2016-04-01.
  7. New chief executive for the Principality Building Society (en) , WalesOnline, 3 Chwefror 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]