Cylch yr Iaith

Oddi ar Wicipedia

Grŵp pwyso sy'n ceisio "sicrhau bod y cyfryngau, yn hytrach na thanseilio a dinistrio’r iaith (Gymraeg), yn chwarae eu rhan i’w gwneud yn iaith fyw fodern"[1] yw Cylch yr Iaith.

Y symbylaeth i sefydlu'r Cylch oedd yr hyn a alwant yn ddirywiad safon y Gymraeg ar y cyfryngau, ac yn neillduol ar Radio Cymru ac S4C. Sefydlwyd Cylch yr Iaith yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a ddaeth a chynrychiolwyr o sawl mudiad arall ynghŷd i drafod y sefyllfa. Dadl y Cylch yw bod agwedd yr awdurdodau sy'n rhedeg y prif gyfryngau Cymraeg yn "tanseilio a dinistrio’r iaith" yn hytrach na'i hyrwyddo a'i hesblygu yn iaith fyw fodern. Credant fod yr awdurdodau teledu a radio Cymraeg yng Nghymru yn meddwl mwy am yr angen i ddenu gwylwyr a gwrandawyr newydd (Saesneg) nag am eu dyletswydd statudol i ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg a bod yr agwedd honno yn dadwneud gwaith athrawon a rhieni sy'n ceisio trosglwyddo'r iaith fel y dylai hi gael ei siarad i blant a phobl ifainc.

Canolbwynt ymdrechion y Cylch i godi safonau ar Radio Cymru ac S4C yw'r ymgyrch a gychwynwyd gan y Dr Meredydd Evans i wrthod talu Trwydded Radio a Theledu hyd nes y byddent "yn gyrff atebol yn gwneud eu priod waith sef darlledu yn yr iaith Gymraeg a hynny mewn Cymraeg cyfoes, cywir".[1] Ar 26 Mai 2011, carcharwyd Geraint Jones o Drefor am wrthod talu diryw o £330 a gafodd am beidio prynu trwydded deledu. Dywedodd y gallai dalu'r ddirwy ond nad oedd yn bwriadu gwneud hynny fel protest yn erbyn "haerllugrwydd a Seisnigrwydd BBC Radio Cymru".[2]

Mae Cylch yr Iaith yn cydweithredu gyda mudiadau eraill, fel Cymdeithas yr Iaith.

Cadeirydd presennol Cylch yr Iaith yw Elfed Roberts, o Benrhyndeudraeth, Gwynedd.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Y Faner Newydd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-10-16. Cyrchwyd 2008-10-17.
  2. Carchar i aelod o Gylch yr Iaith Gwefan y BBC. 26 Mai 2011. Adalwyd ar 28 Mai 2011
  3. Y Lolfa.com
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.