Cylch y Cawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cylch y Cawr: y gromlech.

Heneb Neolithig yn Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon, yw Cylch y Cawr (Saesneg: The Giant's Ring), a leolir yn Ballynahatty, ger Shaw's Bridge, Belffast. Cafodd ei chadw rhag dinistr gan yr Is-iarll Dungannon.

Mae'r safle yn Heneb gofrestredig gyda statws Ardal o Ddiddordeb Archaeolegol Sylweddol (ASAI: Area of Significant Archaeological Interest).[1]

Disgrifiad[golygu]

Mae'r safle yn gorlan gron, 180 m (590 tr) ar draws a 2.8 hectar (6.9 acer) mewn arwynebedd, a amgylchynir gan glawdd crwn o bridd 3.5 m (11 tr) o uchder. Mae o leiaf tri o'r pump bwlch afreolaidd yn y clawdd yn rhai bwriadol ac yn rhan o'r gwaith gwreiddiol, efallai. I'r dwyrain o ganol yr heneb ceir siambr gladdu gellog (passage tomb) bychan gyda olion mynedfa yn wynebu tua'r gorllewin. Mewn adroddiadau cynnar cyfeirir at gromlechau eraill, tu allan i'r cylch, ond mae'r rhain wedi diflannu.[2]

Yn y 18fed ganrif defnyddid y safle i rasio ceffylau. Cafodd safle ddefodol gerllaw ei chloddio ar ddechrau'r 1990au gan Barrie Hartwell o Brifysgol y Frenhines, Belffast.

Panorama o Gylch y Cawr.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Adran yr Amgylchedd
  2. Weir, A (1980). Early Ireland. A Field Guide. Belfast: Blackstaff Press. p. 133.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: