Cylch Cerrig Bryn Ceri

Oddi ar Wicipedia
Cylch Cerrig Bryn Ceri
Ceri
Cylch Cerrig Bryn Ceri

Heneb gynhanesyddol a chylch cerrig sy'n dyddio o Oes yr Efydd ydy cylch cerrig Bryn Ceri (Saesneg: Kerry Hill), ger Ceri, Powys; cyfeirnod OS: SO158861. Rhif SAM CADW ar y safle yma ydy: MG055.[1]

Mae'r cylch yn mesur tua 24-25 metr ar draws a cheir naw carreg yno. Cerrig gweddol isel tua 0,3-0.5 metr o uchder ydynt ac eithrio maen hir 1.4 metre yn eu canol sy'n gorwedd ar y tir erbyn hyn.[2]

Yn ôl pob tebyg, defnyddiwyd yr heneb hon gan y Celtiaid i ddefodau crefyddol ac i gladdu neu gofio am y meirw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Data Cymru Gyfan, CADW
  2. Helen Burnham, A Guide to Ancient and Historic Wales: Clwyd and Powys (Cadw/HMSO, 1995), tud. 192.
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.