Cyfyng-gyngor diogelwch

Oddi ar Wicipedia

Yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, y cyfyng-gyngor sydd yn deillio wrth i wladwriaethau cynyddu eu galluoedd milwrol i sicrháu diogelwch, ond yn y broses yn gwneud i wladwriaethau eraill teimlo'n llai diogel, yw'r cyfyng-gyngor diogelwch. Weithiau gall hyn arwain at gylch dieflig ar ffurf ras arfau.

Mae'r cyfyng-gyngor diogelwch yn fwyaf cysylltiedig â'r realwyr, sydd yn gweld bod ateb i'r broblem yn amhosib. Mae delfrydwyr yn credu bod atebion yn bosib trwy systemau megis diogelwch cyfunol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Booth, Ken a Wheeler, Nicholas J. (2007). The Security Dilemma: Fear, Cooperation, and Trust in World Politics. Palgrave Macmillan. ISBN 0333587456

Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.