Cyfrifiadau yn yr Almaen

Oddi ar Wicipedia
Cyfrifiadau yn yr Almaen
Mathcyfrifiad Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Cyfrifiadau diweddaraf:
     ar ôl 2005      2000–2004      1995–1999      1990–1994      1970–1989

Cafodd Cyfrifiadau yn yr Almaen eu cynnal pob pum mlynedd rhwng 1875 ac 1910. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd dim ond ychydig iawn o gyfrifiadau poblogaeth cyflawn a gymerwyd, y diwethaf ym 1987.[nodyn 1] Bydd yr Almaen, sydd wedi dibynnu ar samplau o'r boblogaeth er mwyn amcangyfrif, yn cymryd rhan yng nghyfrifiad Ewrop-eang ym 2011.[nodyn 2]

Hanes cynnar[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd cyfrifiad yn Nuremberg ym 1471, i gael ei baratoi rhag ofn byddai gwarchae.[1] Dechreuodd Brandenburg-Prussia gyfrir ei boblogaeth gwledig ym 1683. Cynhaliwyd yr arolwg systematig cyntaf ar gyfandir Ewrop ym 1719 yn Mark Brandenburg Teyrnas Prwsia, er mwyn paratoi'r cyfrifiad cyffredinol cyntaf ym 1725.

Yn y rhan Awstriaidd o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig a oedd o dan reolaeth Habsburg, cyflwynwyd cyfrif poblogaeth ym 1754, ond oherwydd gwrthwynebiad gan y boneddigion a'r clerigwyr, ni chynhaliwyd cyfrifiad llawn ar ôl 1769. Canrif yn ddiweddarach wedi cryn newidiadau gwleidyddol, ailgyflwynwyd y cyfrifiad ym 1869, a cynhaliwyd hefyd ym 1880, 1890, 1900, 1910, ar yr un adeg a chyfrifiad Ymerodraeth yr Almaen. Rhwng y rhyfeloedd, cynhaliwyd cyfrifiadau ym 1920, 1923, 1934 ac 1939 a oedd i'w ailddechrau ym 1951 ac i gael ei gynnal pob deng mlynedd wedi hynny.

Mae poblogaeth o 24,241,000 ar gyfer 1806 mewn sawl Imperial Circle yn cael ei ddyfynnu yn "Statistik des deutschen Reiches",[2] er fod yr hen Ymerodraeth Rufeinig wedi dymchwel ac nid oedd Ymerodraeth newydd yr Almaen yn bodoli eto fel corff gwleidyddol. Erbyn 1821, roedd poblogaeth Cydffederasiwn yr Almaen, a oedd newydd gael ei sefydlu, wedi tyfu i dros 30 miliwn.[3]

1834–1867 Deutscher Zollverein[golygu | golygu cod]

Zollverein ac Uniad yr Almaen

Pan sefydlwyd Cydffederasiwn yr Almaen ym 1815, roedd rhai taleithiau wedi bod yn awyddus i profi mai poblogaeth fechan oedd ganddynt yn unig, er mwyn gorfod cyfrannu llai o filwyr tuag at y Fyddin Ffederal. Ar y llaw arall, pan ffurfiwyd yr undeb gwsmeriaeth cyntaf rhwng taleithiau'r de, roeddent eisiau dangos fod ganddynt boblogaeth mawr er mwyn gallu hawlio cyfran mwy o gyllid y gwsmeriaeth.[4]

Cynhaliwyd cyfrifiad gan yr undeb hwn, y Zollverein, rhwng 1834 ac 1867, pob tair mlynedd ar 3 Rhagfyr, er mwyn rhannu'r gyllid rhwng ei thaleithiau yn gyfartal. Dewiswyd y dyddiad hwnnw oherwydd disgwylid i ran fwyaf o bobl y "Zollabrechnungsbevölkerung" (poblogaeth cyfrifyddu cyfraniaeth) fod adref pryd hynny.

Arhosodd rhannau dwyreiniol Prwsia tu allan i'r Conffederasiwn am gyfnod, ond roedd Prwsia gyfan yn rhan o'r Zollverein. Ymunodd y rhan fwyaf o'r taleithiau'r Zollverein yn y diwedd, ond ni ymunodd Ymerodrodraeth Awstria o gwbl, a diddymwyd Conffederasiwn yr Almaen a'r Zollverein yn ystod rhyfel cartref 1866. Ail-ffurfiodd y Zollverein a cynhaliwyd cyfrifiad newydd ym 1867, ond cafodd cyfrifiad 1870 ei ohirio oherwydd y Rhyfel Franco-Almaenig a sefydliad Ymerodraeth yr Almaen.

Dyddiad Ardal
(km²)
Poblogaeth Pobl.
y km²
Newidiadau i'r ardaloedd
3 Rhagfyr 1834 420.301 23.478.120 56
3 Rhagfyr 1837 439.420 26.008.973 59 cynnwys Land Baden and Herzogtum Nassau ers 1835, cynnwys Freie Stadt Frankfurt ers 1836
3 Rhagfyr 1840 439.420 27.142.116 62
3 Rhagfyr 1843 447.507 28.498.136 64 cynnwys Herzogtum Braunschweig ers 1841, cynnwys Lwcsembwrg ers 1842
3 Rhagfyr 1846 447.507 29.461.381 66
3 Rhagfyr 1849 447.507 29.800.063 67
3 Rhagfyr 1852 447.507 30.492.792 68
3 Rhagfyr 1855 492.621 32.721.344 66 cynnwys Königreich Hannover, Großherzogtum Oldenburg a Schaumburg-Lippe ers 1854
3 Rhagfyr 1858 492.621 33.542.352 68
3 Rhagfyr 1861 492.621 34.670.277 70
3 Rhagfyr 1864 492.621 35.886.302 73
3 Rhagfyr 1867 510.628 37.512.005 73 cynnwys Fürstentum Lübeck, Mecklenburg-Schwerin a Mecklenburg-Strelitz ers 1867

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. Kersten Krüger (2005). "Historische Statistik", Formung der frühen Moderne - Ausgewählte Aufsätze. LIT Verlag Berlin-Hamburg-Münster, tud. 272. ISBN 9783825888732URL
  2. (1806) Statistik des deutschen Reiches. Bamberg and Würzburg, tud. 48. URL
  3. Johann Daniel Albrecht Höck (1821). Handbuch einer Statistik der deutschen Bundesstaaten. C. Cnobloch, tud. 28. URL
  4. William Otto Henderson (1984). The Zollverein. Routledge. ISBN 9780714613222URL

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. Germany needs a new census because present population and dwelling figures are based on updates of results from the latest population censuses. These were held in Germany in 1987 for the former territory of the Federal Republic and in 1981 for the former GDR. - Federal Statistical Office and the statistical Offices of the Länder Archifwyd 2009-06-20 yn y Peiriant Wayback.
  2. In their coalition agreement of 11 November 2005, the governing parties in Germany had already decided on Germany’s participation in the Census of 2011. On 29 August 2006, the Federal Cabinet agreed in a decision of principle that the census to be conducted in Germany would be register-based. - Federal Statistical Office

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.