Cyfrifiadau yn Hong Cong

Oddi ar Wicipedia

Mae cyfrifiadau yn Hong Cong (Tsieineeg: c=香港人口普查) eu cynnal yn Hong Cong pob deng mlynedd, gydag is-gyfrifiad pum mlynedd ar ôl pob cyfrifiad. Cynhaliwyd y cyfrifiad diwethaf ym mis Mawrth 2001, a'r is-gyfrifiad diwethaf ar 15 Gorffennaf1 Awst 2006. Mae'r cyfrifiadau yn gasgliad o wybodaeth ynglŷn â demograffeg Hong Cong, a chaiff ei gynnal gan Adran Cyfrifiadau ac Ystadegau Llywodraeth Hong Cong.

Mae'r cyfrifiad yn seiliedig ar rhanbarthau gweinyddol Hong Cong, er mwyn canfod nodweddion a thueddiadau yn y boblogaeth. Mae'r cyfrifiad yn cael ei gynnal ar raddfa fawr, gydag ystod eang o wybodaeth yn cael ei gasglu. Mae'r ystadegau yn gallu cael eu defnyddio gan y llywodraeth er mwyn creu polisïau, neu gan gyfundrefn preifat mewn ymchwil.

Mae'r cyfrifiadau wedi cael eu cynnal ers 1841 pan gafodd Ynys Hong Cong ei ildio i'r Deyrnas Unedg. Cynhaliwyd y cyfrifiad cyntaf ar ei ffurf bresennol ym 1961 a'r is-gyfrifiad cyntaf ym 1966. Maent yn parhau i'w cynnal pob deng mlynedd.

Casglwyd y manylion gan pbb dinesydd ar gyfer cyfrifiad 1961 ac 1971. Ers 1981, er fod cyfrif y boblogaeth yn dal i gael ei gwblhau ar ffurf arolwg gyda holiadur yn cynnwys gwybodaeth elfennol megis oed a rhyw, caiff manylion ar gyfer ystadegau nodweddion y boblogaeth eu casglu drwy gynnal cyfweliadau â sampl o deuluoedd. Ar gyfer cyfrifiad 2001, cynhaliwyd un cyfweliad ar gyfer pob 7 holiadur.

Mae'r is-gyfrifiad yn cael ei gynnal mewn modd tebyg, ond gyda chanran llai yn cael eu ymweld ar gyfer cyfweliad. Cafodd 10% o aelwydi Hong Cong eu cynnwys yn is-gyfrifiad 2006.