Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001

Oddi ar Wicipedia
Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001
Cyfrifiad blaenorol Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 1991
Cyfrifiad nesaf Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011
Ardal Deyrnas Unedig
Awdurdod Swyddfa Ystadegau Gwladol
Dyddiad y Cyfrifiad 29 Ebrill 2001
Y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg, 2001
Y nifer a oedd yn gallu siarad Cymraeg, 2001, fesul cymuned.

Cynhaliwyd cyfrifiad o bob rhan o'r Deyrnas Unedig, a adnabyddir yn gyffredinol fel Cyfrifiad 2001, ar ddydd Sul 29 Ebrill 2001. Hwn oedd y 19fed gyfrifiad yn y Deyrnas Unedig. Trefnwyd Cyfrifiad 2001 gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr, a gan Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yr Alban yn yr Alban a gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon. Mae canlyniadau manwl yn ôl ardal, ardal cyngor, ward ac ardal allbwn ar gael ar eu gwefannau.

Y Gymraeg[golygu | golygu cod]

Roedd nifer o bobl yn anniddig efo penderfyniad llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio cynnwys cwestiwn am y gallu i siarad neu ddeall yr iaith Gymraeg ar y ffuflenni yn rhannau eraill o'r DU. Roedd academyddion a haneswyr yn awyddus i gael gwybod nifer y siaradwyr Cymraeg yn Lloegr a mannau eraill, ond gwrthodwyd eu cais fel un "anymarferol".

Dyma rai o’r casgliadau pwysicaf.[1]
  1. Cynyddodd y ganran oedd yn gallu siarad Cymraeg rhwng 1991 a 2001 yn bennaf oherwydd twf mewn dysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgolion dros y cyfnod hwnnw.
  2. Mae nifer a chanran y siaradwyr iaith gyntaf yn dal i gynyddu ymhlith yr ifainc o ganlyniad i dwf addysg cyfrwng Cymraeg.
  3. Mae allfudo yn effeithio’n sylweddol ar y nifer sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru.
  4. Mae mewnfudo’n effeithio’n sylweddol ar y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Adeg Cyfrifiad 2001, roedd 20% o’r boblogaeth wedi eu geni yn Lloegr. Gellir disgwyl bod y ganran yn uwch erbyn hyn ac yn parhau i gynyddu.
  5. O ran siaradwyr Cymraeg rhugl ymddengys fod allfudiad net o Gymru.
  6. Awgryma’r ffigurau bod nifer y siaradwyr rhugl yng Nghymru yn gostwng yn flynyddol.
  7. Newidiodd dosbarthiad daearyddol y siaradwyr Cymraeg rhwng 1991 a 2001. Golygai hynny fod y tebygolrwydd y byddai siaradwr Cymraeg yn cwrdd ag un arall ar hap wedi lleihau dros y cyfnod hwnnw. Mae goblygiadau o ran defnydd yr iaith a ffurfiant cartrefi lle defnyddir y Gymraeg yn deillio o’r fath newid.
  8. Nid yw canlyniadau arolygon diweddar na’r amcanestyniadau a gyfrifwyd yn awgrymu y gwelir cynnydd sylweddol yn y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn y dyfodol agos.

Y blwch cenedligrwydd[golygu | golygu cod]

Yng Nghymru cafwyd ymgyrch amlwg a nifer o brotestiadau gan grwpiau ac unigolion am nad oedd y Cyfrifiad yn cynnwys blwch i nodi cenedligrwydd Cymreig.[2] Gwrthodai sawl person lenwi'r ffurfleni am nad oeddent yn barod i ddisgrifio eu hunain fel "Prydeinwyr", er i'r awdurdodau fygwth dwyn y gyfraith ar unrhyw un a wnâi hynny. Gan fod rhai miloedd, o leiaf, wedi gwrthod, ni chafwyd achosion llys yn erbyn y rhai a oedd yn gwrthod. Yn ogystal â'r rhai a wrthododd yn llwyr, penderfynodd nifer [15.7%] o'r boblogaeth ysgrifennu "Cymro" yn lle ticio'r blwch yn nodi "Prydeinwr(aig) gwyn" neu anwybyddu'r cwestiwn.[3] Roedd 3,700 wedi glynu sticer dros y cwestiwn.

Lleihad yn y niferoedd[golygu | golygu cod]

Cartogramau Cyfrifiad 2001. Mae maint ardal yn adlewyrchu -

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Darlun ystadegol o sefyllfa’r Gymraeg, Comisiynydd y Gymraeg;[dolen marw] adalwyd 10 Hydref 2014
  2. Gwefan Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol; adalwyd 20 Ionawr 2013
  3. [1] Gwefan Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol]; adalwyd 19 Ionawr 2012

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o wefan Comisiynydd y Gymraeg. Caniateir atgynhyrchu deunydd y Comisiynydd am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled â’i fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Uwchlwythwyd y gwaith hwn i'r Wicipedia Cymraeg o dan hawliau trwydded 'Defnydd Teg'.