Cyfraith gyffredin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfraith yw'r gyfraith gyffredin[1] (a elwir hefyd yn gyfraith achos, cynsail neu gyfraith gwlad) a ddatblygir gan farnwyr trwy benderfyniadau llysoedd a thribiwnlysoedd tebyg yn hytrach na thrwy statudau deddfwriaethol neu weithgarwch yr adran weithredol. System gyfreithiol yw system cyfraith gyffredin sy'n rhoi pwys cynseiliol i gyfraith gyffredin, ar yr egwyddor nad yw'n deg i drin ffeithiau tebyg yn wahanol ar achlysuron gwahanol. Gelwir corff y cynsail yn "gyfraith gyffredin" ac mae'n rhwymo penderfyniadau'r dyfodol. Mewn achosion lle mae'r pleidiau yn anghytuno ar ystyr y gyfraith, mae llys delfrydol mewn system cyfraith gyffredin yn edrych i benderfyniadau'r gorffennol gan lysoedd eraill. Os datryswyd dadl debyg yn y gorffennol, mae'n rhaid i'r llys ddilyn yr ymresymiad a ddefnyddiwyd yn y penderfyniad cynt: gelwir yr egwyddor hon o rwymo i gynsail yn stare decisis. Os yw'r llys yn canfod bod yr anghydfod dan sylw yn hollol wahanol i bob un achos gynt, ac felly'n "fater argraff gyntaf", yna mae gan farnwyr yr awdurdod a'r ddyletswydd i greu'r gyfraith trwy osod cynsail. Wedyn, daw'r penderfyniad newydd yn gynsail, ac bydd yn rhwymo llysoedd iddo yn y dyfodol.

Defnyddir systemau cyfraith gyffredin mewn nifer o wledydd, yn enwedig Cymru a Lloegr (tarddodd cyfraith gyffredin yn Nheyrnas Lloegr yn yr Oesoedd Canol), a nifer o gyn-drefedigaethau'r Ymerodraeth Brydeinig gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Barbados, Malaysia, Singapore, Bangladesh, Pakistan, Sri Lanka, India, Ghana, Cameroon, Canada, Gweriniaeth Iwerddon, Seland Newydd, De Affrica, Zimbabwe, Hong Kong, ac Awstralia.

Gweler heyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 38.