Cyflythreniad
Oddi ar Wicipedia
Mewn llenyddiaeth, cyfatebiaeth cytseiniau neu seiniau cyntaf geiriau yw cyflythreniad.[1] Mae cyflythreniad yn addurn cyffredin mewn llenyddiaeth, yn enwedig mewn barddoniaeth, ond gall digwydd mewn rhyddiaith rythmig hefyd.
Pan geir cyfatebiaeth cytseiniau yn unig fe'i gelwir yn cytseinedd. Ceir enghreifftiau niferus yng ngwaith beirdd Cymru a gwledydd eraill. Dyma enghraifft o un o gerddi Taliesin (6ed ganrif OC), sef 'Gwaith Argoed Llwyfain':
- Y bore duw Sadwrn cad fawr a fu
- O'r pan ddwyre haul hyd pan gynnu.[2]