Cyflaith

Oddi ar Wicipedia
Cyflaith o siop Thorntons.

Melysfwyd a wneir drwy ferwi cymysgedd o siwgr, surop megis triagl, ac yn aml menyn a'i adael i oeri ac ymgaledu yw cyflaith, cyfleth, taffi, toffi, neu ffani. Ceir dau brif fath: cyflaith wedi ei dynnu, sy'n draddodiadol yng Nghymru a'r Unol Daleithiau, a chyflaith heb ei dynnu, sef y math a geir yn Lloegr.

Cyflaith Cymreig[golygu | golygu cod]

Ffatri Taffi Harrison ym Mhenrhyndeudraeth (1959).

Melysyn tynnu yw'r cyflaith Cymreig traddodiadol. Paratoid yn y cartref gan ddefnyddio triagl du, siwgr a menyn. Berwer y cymysgedd gan roi iddo ei ansawdd arbennig, a thywallt y cymysgedd ar fwrdd llechen neu ddysgl agored. Yna iro'r dwylo â menyn a thynnu'r cyflaith yn rhaffau hirion, melyn.[1] Mae'r traddodiad o bartïon tynnu cyflaith yn parháu mewn rhannau o Gymru. Gellir cael cyflaith heb fenyn, ond gan amlaf bydd yn cynnwys ychydig o fêl neu surop i atal crisialu.[2]

Mae'n hen arferiad mewn llawer man yng ngogledd Cymru gynnal Noson Gyflaith i ddathlu'r Nadolig neu'r Flwyddyn Newydd. Bydd pobl ifainc, gan amlaf, yn ymgynnull mewn ffermdai i wneud cyflaith triog wrth aros am amser gwasanaeth y plygain.[3] Traddodiad arall oedd rhagweld pwy fyddai rhywun yn ei briodi drwy ollwng darnau o'r gyflaith i mewn i ddŵr oer a gweld pa lythyren a ffurfiai.[4]

Losin du neu daffi triog, a fwyteir adeg Calan Gaeaf a Noson Guto Ffowc. Ceir y cyflaith hwn ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban.

Roedd cyflaith yn cael ei wneud mewn rhannau o dde Cymru hefyd, yn enwedig yn y cymoedd glo. Ni chysylltid ef ag unrhyw ŵyl arbennig yn y de, ond roedd yn arfer gan wragedd i'w werthu o'u cartrefi neu yn y farchnad leol.[5] Cyflaith o liw gwyn a hufen oedd taffi a ffani neu ddant. Byddai amryw o wragedd ym Morgannwg yn ei wneud yn eu cartrefi ar gyfer ei werthu. Siwgr a menyn oedd ei sylfaen, a byddid yn ei dynnu nes cael rhan ohono'n wyn a'r gweddill o liw hufen. Byddid yn blasu'r un lliw hufen ag olew mintys weithiau. Fe'i gwerthid yn stribedi deuliw o ryw chwe modfedd o hyd am geiniog yr un.[1] Ym Morgannwg ceir hefyd paradeis, sef darnau o gyflaith ar ffurf tri chornel ac wedi'u blasu â mintys, a'u gwerthu am geiniog yr owns. Hefyd yn yr ardal honno rhoddir yr enw losin tripa ar gyflaith a wnaed yn y cartref.[6] Gwnaed cyflaith o'r enw losin bwtwna gan hen wraig mewn siop fach yn Aberdâr. Byddid yn ei dynnu nes iddo droi'n wyn, ei dorri'n ddarnau ac yna addurno'r darnau â chwrlyn o gyflaith.[6]

Toffi Seisnig[golygu | golygu cod]

Gelwid cyflaith Seisnig neu Brydeinig ynghynt yn daffi (Saesneg: taffy), a heddiw yn doffi (toffee). Gwneir o surop siwgr a menyn gyda chynhwysyn ychwanegol i atal crisialu, er enghraifft surop neu driagl du yn lle rhai o'r siwgr, neu asid megis sudd lemwn. Berwer i'r cam hollt feddal i wneud toffi meddal, neu'r gam hollt galed am doffi caled, gan ei gymysgu'n brin iawn neu ddim o gwbl. Arllwysir a gedewir i geulo, heb dynnu neu fel arall trin y cymysgedd. Ceir nifer fawr o ychwanegion a chyflasynnau, gan gynnwys triagl, cnau, siocled, hufen neu hufen sur, mintys, a wisgi.[7]

Taffi Americanaidd[golygu | golygu cod]

Powlen o daffis dŵr hallt.

Melysyn tynnu yw taffi Americanaidd, yn debyg i gyflaith yng Nghymru. Gwerthir yn aml ar ffurf melysion bychain mewn papurau losin lliwgar, math o "gandis ceiniog" (penny candies). Yn ôl y rysáit sylfaenol, gwresogir cymysgedd o siwgr, dŵr a thriagl neu surop corn, ac yna'i dywallt dros lechen i oeri a'i flasu gydag olew naws. Wrth iddo oeri, tynnir a phlygir y taffi gan roi iddo ansawdd gwydn ond meddal.[8] Math poblogaidd yw taffi dŵr hallt, a brynid gan genedlaethau o Americanwyr yn y ffair ac ar lan y môr. Gwneir heb fenyn ac yn wreiddiol gyda dŵr y môr.[2]

Gwler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 S. Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 54.
  2. 2.0 2.1 Alan Davidson. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 801.
  3. Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs (Amgueddfa Werin Cymru, 1978), t. 28.
  4.  Arferion Nadoli. BBC Cymru. Adalwyd ar 7 Gorffennaf 2015.
  5.  Gwneud Cyflaith. Amgueddfa Cymru. Adalwyd ar 7 Gorffennaf 2015.
  6. 6.0 6.1 Tibbott, Geirfa'r Gegin (1983), t. 55.
  7. Davidson, Companion to Food (2006), tt. 800–01.
  8. (Saesneg) taffy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Gorffennaf 2015.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: