Cyflafan Gŵyl Sant Bricius

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Llofruddiaeth drefniedig nifer o Ddaniaid yn nheyrnas Lloegr yn y flwyddyn 1002 ar orchymyn y brenin Ethelred yr Amharod oedd Cyflafan Gŵyl Sant Bricius.

Roedd y Llychlyniaid wedi ymosod ar Loegr bob blwyddyn o 997 hyd 1001. Roedd nifer o bobl o wledydd Llychlyn eisoes yn byw yn Lloegr, a chredodd Ethelred eu bod yn rhoi cymorth i'r Vikingiaid hyn. Penderfynodd gael gwared arnynt ei gyd er mwyn atal yr ymosodiadau a gorchmynodd "ladd pob Daniad (yn ddynion, merched a phlant) yn Lloegr". Adnabyddir hyn fel Cyflafan Gŵyl Sant Bricius am iddo ddigwydd ar yr 2il o Ragfyr, dydd gŵyl Sant Bricius o Tours.

Er na lladdwyd pob Daniad yn y deyrnas, credir fod nifer wedi cael eu llofruddio, yn enwedig yn y trefi. Mae rhai haneswyr yn cyfeirio at hyn fel polisi o lanhau ethnig gan y brenin.

Cofnodir y gyflafan yn nhref Rhydychen yng nghronicl John o Wallingford lle dywedir fod y trigolion Danaidd wedi ceisio noddfa mewn eglwys a losgwyd yn ulw gan y dorf. Ymhlith y rhai a laddwyd yr oedd Gunhilde, chwaer Sweyn I, brenin Denmarc, ei gŵr Pada a'i merch.

Arweiniodd ysfa Sweyn i ddial ar y Saeson at ymgais i oresgyn Lloegr yn 1003/04, a 10 mlynedd yn nes ymlaen gorfodwyd Ethelred i ffoi i Normandi, gan adael yr orsedd i Sweyn, a reolodd Loegr o am rai misoedd ar ddiwedd 1013 a dechrau 1014.

Dolen allanol[golygu]