Cyffur gwrthlid ansteroidol

Oddi ar Wicipedia
Cyffur gwrthlid ansteroidol
Enghraifft o'r canlynolterm ontolegol ChEBI Edit this on Wikidata
Mathpoenleddfwr an-opioid, asiant gwrthlidiol, disease-modifying antirheumatic drug Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyffur meddyginiaethol i drin nifer o wahanol gyflyrau yw cyffur gwrthlid ansteroidol neu NSAID.[1] Defnyddir NSAIDau i leddfu poen ac anesmwythder, er enghraifft straen y cyhyrau, ysigiad, meigryn, a mislif poenus; i dynnu twymyn i lawr; ac i drin cyflyrau llidus megis arthritis gwynegol. Dangoswyd fod NSAIDau yn effeithiol hefyd wrth drin cyflyrau eraill nad yw'n ffitio i mewn i un o'r categorïau yma, megis mislif trwm.[2]

Gellir cymryd NSAIDau yn eneuol ar ffurf tabledi, capsiwlau, neu hylif; drwy bigiad i'r croen; neu drwy dawddgyffuriau (a roddir i mewn i'r rectwm). Gellir rhoi NSAIDau argroenol, megis diferion llygaid a hufenau a geliau croen, yn uniongyrchol ar yr ardal yr effeithir arni.[2]

Mecanwaith eu heffaith[golygu | golygu cod]

Pan datblygwyd cyffuriau gwrthlid ansteroidol yn gyntaf, nid oedd gwyddonwyr yn deall yn iawn sut oeddent yn gweithio, a dim ond yn dilyn mwy o ymchwil yn y maes y daethant i ddeall mecanwaith eu heffaith.[3]

Mae cyffuriau gwrthlid ansteroidol yn gweithio trwy amharu ar yr ensym cyclo-ocsiganas (COX), yr ensym sy'n rheoli cynhyrchiad prostaglandinau, cemegion sydd â nifer o wahanol swyddogaethau ond sydd yn gyfrifol am achosi poen a llid.[3]

Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

Yn y Deyrnas Unedig y tri math o gyffur gwrthlid ansteroidol sydd ar gael dros y cownter yw aspirin, ibuprofen, a naproxen, tra bo rhaid i NSAIDau eraill, yn cynnwys asid mefenamig, celecoxib, diclofenac, etodolac, etoricoxib, indometacin, meloxicam, a nabumetone, gael eu rhoi ar bresgripsiwn gan feddyg teulu neu arbenigwr.[4]

Sgîl-effeithiau[golygu | golygu cod]

Anaml yw sgîl-effeithiau cyffuriau gwrthlid ansteroidol, ond caiff adwaith claf i ddefnydd o'r feddyginiaeth am gyfnod estynedig ei fonitro'n fanwl rhag ofn bod sgîl-effeithiau difrifol yn digwydd. Mae'r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin sy'n deillio o ddefnydd hirdymor o NSAIDau yn effeithio ar y llwybr gastroberfeddol, sef y stumog a'r perfedd, ac yn cynnwys diffyg traul ac wlser stumog. Gall wlserau stumog achosi cymhlethdodau mwy difrifol weithiau, megis gwaedu gastroberfeddol, anemia, a thrydylliad gastroberfeddol. Yn llai cyffredin, a gan amlaf dim ond os oes gan y claf cyflwr cardiofasgwlaidd cyfredol, gall NSAIDau effeithio ar y system gylchredol, gan gynnwys y galon, ac achosi methiant y galon, trawiad ar y galon, neu orbwysedd. Mewn achosion prin iawn fe effeithir yr afu neu'r arennau, ond mae'n fwyaf tebygol o effeithio ar y rheiny sydd â chyflyrau'r organau hyn yn barod.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. O'r Saesneg: non-steroidal anti-inflammatory drug.
  2. 2.0 2.1  Meddyginiaethau gwrthlid, ansteroidol: Beth yw ei ddiben?. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  3. 3.0 3.1  Meddyginiaethau gwrthlid, ansteroidol: Sut mae'n gweithio?. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  4.  Meddyginiaethau gwrthlid, ansteroidol: Enwau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  5.  Meddyginiaethau gwrthlid, ansteroidol: Sgîl-effeithiau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.