Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru

Oddi ar Wicipedia
Logo'r Cydymaith

Cyfeirlyfr yn cwmpasu holl feysydd oddi fewn i faes cerddoriaeth yng Nghymru yw'r Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, gyda'r amcan o wneud hynny mewn modd holistig, cynhwysfawr, diffiniadol ac awdurdodol. Fe'i cyhoeddwyd gan Y Lolfa, Tal-y-bont, ym mis Hydref 2018; golygwyd y gyfrol gan Pwyll ap Siôn a Wyn Thomas.

Bwriedir cynnwys cofnodion yn amrywio o gerddoriaeth gynnar i gerddoriaeth gyfoes, o’r traddodiadol i’r modern, o ganu gwerin i ganu pop, o gantorion, cerddorion a digwyddiadau o bwys at unawdwyr opera, cerddorfeydd, traciau sain y sgrîn deledu a’r sinema.

Drwy greu cyhoeddiad o’r math hwn ym maes Cerddoriaeth, y gobaith yw bydd y Cydymaith Cerdd yn garreg filltir yn ysgolheictod Cerddoriaeth Cymru. Daw ag arbenigedd traws-sefydliadol at ei gilydd gan adlewyrchu’r ystod eang o ymchwil sydd i’w ganfod mewn gwaith ymchwil ar Gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig ar hyn o bryd.

Derbyniwyd grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gefnogi a datblygu’r cyhoeddiad. Penodwyd gweinyddydd academaidd ac îs-reolwr ar gyfer y prosiect, ynghyd â phwyllgor golygyddol o academyddion gydag arbenigeddau ar draws y sbectrwm, ac fe gynhaliwyd cynhadledd yn y Llyfrgell Genedlaethol ym mis Chwefror 2013 i hyrwyddo’r cyhoeddiad.

Cynnwys ag Amcanion y Cydymaith[golygu | golygu cod]

Dilynodd y cyhoeddiad batrwm tebyg i’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru / Yr Academi Gymreig, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1986, ail argraffiad 1992, trydydd argraffiad 1997), gan fabwysiadu rhywfaint ar fformat Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, gol. John Davies ac eraill (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), ond gan gynnig cofnodau manwl ac awdurdodol, tebyg i’r New Grove Dictionary of Music and Musicians (Macmillan, ail argraffiad 2001). Y bwriad oedd creu cyfeirlyfr ymarferol a defnyddiol ar gyfer myfyrwyr Chweched Dosbarth, Myfyrwyr Isradd ac Uwchradd, Myfyrwyr Ymchwil, Athrawon ac Ysgolheigion fel ei gilydd.

Dyma’r prif faesydd yn cael eu cynnwys:

  • Cerddoriaeth Gynnar;
  • Cerddoriaeth Draddodiadol a Chanu Gwerin;
  • Organoleg ac Offerynnau;
  • Cerddoriaeth Glasurol a Chelfyddydol yng Nghymru; Cerddoriaeth Grefyddol;
  • Canu Poblogaidd;
  • Hanesyddiaeth, Ysgolheictod ac Addysg;
  • Diwylliant a’r Diwydiant Cerddoriaeth.

Gwahoddwyd oddeutu 50 o awduron i gyfranu i’r cyhoeddiad, gyda nifer o’r cofnodion yn cael eu hysgrifennu gan aelodau o’r panel golygyddol:

Y Panel Golygyddol[golygu | golygu cod]

Dr Meredydd Evans a Dr Phyllis Kinney (golygyddion er emeritws)

Mr Wyn Thomas (cyd-olygydd, Prifysgol Bangor)

Athro Pwyll ap Siôn (cyd-olygydd, Prifysgol Bangor)

  • Dr Tristian Evans (cerddolegydd a phianydd)
  • Mr Einion Dafydd (Cerddor a chyfansoddwr, cyn uwch-swyddog Cerddoriaeth, Cyngor Celfyddydau Cymru)
  • Dr Rhidian Griffiths (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
  • Dr Sally Harper (Uwch-Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor)
  • Yr Athro Trevor Herbert (Athro gyda’r Brifysgol Agored)
  • Dr Sarah Hill (Darlithydd, Prifysgol Caerdydd)
  • Dr Richard Elfyn Jones (Prifysgol Caerdydd)
  • Mr Stephen Rees (Cydlynydd Cerddoriaeth, Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
  • Ms Sioned Webb (Cerddor llawrydd, ac awdur Cerddoriaeth yr 20g)
  • Yr Athro Gareth Williams (Athro ym Mhrifysgol Morgannwg)