Cwrasao

Oddi ar Wicipedia
Gwydraid o gwrasao glas.

Gwirodlyn a flesir gyda chroen sych y ffrwyth sitrws laraha, sy'n fath o oren chwerw a dyfir ar ynys Curaçao, yw cwrasao.[1] Gwneir cwrasao yn bennaf yn Ffrainc a'r Iseldiroedd, ac mewn nifer o liwiau ac amrywiadau megis triple sec. Mae gan y gwirodlyn hwn gynnwys alcohol o 40%. Defnyddir mewn coctels megis y coctel cwrasao: ¾ mesur o chwisgi Albanaidd, ½ mesur o sudd lemwn, a ¼ mesur o gwrasao gwyn, ysgydwer dros iâ, a hidler i wydryn coctel.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, [curaçao].
  2. Graham a Sue Edwards. The Dictionary of Drink (Stroud, Alan Sutton, 1991), t. 335.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am ddiod alcoholaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.