Cwpan Rygbi'r Byd
Oddi ar Wicipedia
| Cwpan Rygbi'r Byd | |
|---|---|
![]() |
|
| Chwaraeon | Rygbi'r Undeb |
| Sefydlwyd | 1987 |
| Motto | A World in Union |
| Nifer o Dimau | 20 (16 rhwng 1987 a 1995) |
| Pencampwyr presennol | |
| Gwefan Swyddogol | http://www.rugbyworldcup.com |
Cwpan Rygbi'r Byd neu Cwpan y Byd Rygbi yw prif gystadleuaeth rhyngwladol rygbi'r undeb. Cynhelir twrnament bob pedair blynedd ers y bencampwriaeth gyntaf yn 1987 yn Awstralia a Seland Newydd. Trefnir y cwpan gan fwrdd rhyngwladol rygbi (IRB).
Bydd yr enillwyr yn derbyn Cwpan Webb Ellis, a enwyd ar ôl y disgybl o Ysgol Rugby yr honnir iddo ddyfeisio'r gêm. Y pencampwyr presennol yw Seland Newydd, a enillodd y cwpan yn 2011 yn erbyn Ffrainc. Cynhaliwyd Cwpan Rygbi'r Byd 2011 ym Medi a Hydref 2011 yn Seland Newydd. Fe'i cynhelir yn Lloegr yn 2015 ac yn Japan yn 2019.
Daeth rygbi yn gêm broffesiynol yn ystod Cwpan y Byd 1995 yn Ne Affrica. Cyn hynny, yr oedd yn gêm amatur.
