Cwpan ŵy

Oddi ar Wicipedia
Cwpan ŵy

Cynhwysydd ar gyfer wyau wedi'u berwi yn eu plisgyn yw cwpan ŵy neu ecob. Mae gan gwpanau cwpan ŵy ran ceugrwm i ddal yr wy ac weithiau waelod i godi'r rhan honno ac i roi sefydlogrwydd. Gellir gwneud cwpan ŵy allan o borslen, crochenwaith, pren, plastig, gwydr ac amryw fetelau neu bakelit. Mae rhai wedi'u gwneud o ddau ddeunydd (pren a seramig).

Hanes[golygu | golygu cod]

Gwyddir am fodolaeth cwpannau ŵy ers o leiaf cyfnod Ymerodraeth Rufeinig. Ceir mosäig o Antiochia (Twrci presennol) o'r flwyddyn 40CC sy'n darlunio pryd o fwyd gyda chwpan a llwyau ŵy. Yn nhref Pompeii darganfyddwyd cwpan ŵy arian gyda llwy yn cyd-fynd ag e.[1]

Cwpan Ŵy Cymraeg[golygu | golygu cod]

Ceir stoc o gwpanau ŵy cyfoes o borselan gwyn sy'n arddangos y gair 'ŵy' wedi ei engrafu ac mewn dewis o liwiau (coch, oren, gwyrdd a glas) arnynt.[2]. Dylunnir y cwpannau gan Keith Brymer Jones ac maent ar werth drwy siopau llyfrau a chrefftau Cymraeg ac ar y we.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Christa Klebor, [Volltext auf deutsches-eierbechermuseum.de "Vom Kulturgut zum Kultobjekt: Ein Hoch auf den Eierbecher und seine spannende Geschichte"] (yn German), Berliner Morgenpost, Volltext auf deutsches-eierbechermuseum.de
  2. https://amgueddfa.cymru/siop/item/2066/4-cwpan-wy/[dolen marw]