Cwmaman, Sir Gaerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Cwmaman. Saif y gymuned ynghanol Dyffryn Aman, i'r dwyrain o Rydaman. Mae'n cynnwys pentref Glanaman a'r Garnant, a rhan o lethrau gorllewinol y Mynydd Du.

Arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig iawn yn yr ardal yma, ond caeodd y pwll mwyaf, sef Gelliceidrym, yn 1958, ac erbyn 1985 roedd pob un o'r pyllau glo wedi cau. Roedd hefyd ddiwydiant tunplat yma.

Pobl o Gwmaman[golygu]

Poblogaeth[golygu]

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 4,226, gyda 78.47% yn medru Cymraeg.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cwmaman, Sir Gaerfyrddin (pob oed) (4,486)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cwmaman, Sir Gaerfyrddin) (2,567)
  
59.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cwmaman, Sir Gaerfyrddin) (3360)
  
74.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Cwmaman, Sir Gaerfyrddin) (845)
  
43.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolenni allanol[golygu]