Cwm Penamnen

Oddi ar Wicipedia
Cwm Penamnen
Mathdyffryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDolwyddelan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.03842°N 3.88556°W Edit this on Wikidata
Map

Cwm i'r de o Ddolwyddelan, bwrdeistref sirol Conwy, yw Cwm Penamnen, yn rhedeg bron yn union o'r de at y gogledd, lle mae'n ymuno â Dyffryn Lledr.

Cwm Penamnen

Hanes[golygu | golygu cod]

Rhed Sarn Helen, y ffordd Rhufeinig, drwy'r cwm.

Yn ôl hanes teulu Gwydir, adeiladodd Maredudd ab Ieuan ap Robert, hynafiad teulu Gwydir, blasdy yma o gwmpas y flwyddyn 1485[1]. Symudodd y teulu yn ddiweddarach at Gastell Gwydir. Gadawyd olion y plasdy, yn dwyn yr enw Parlwr Penamnen neu Tai Penamnen, a bu tua dechrau'r ddeunawfed ganrif yn gartref i'r bardd Angharad James[2][3].

Mae olion y tai[4] i'w gweld heddiw ac yn cael eu hymchwilio gan archaeolegwyr.[5]

Yn yr ugeinfed ganrif, bu bygythiad i foddi'r cwm. Mae'r rhan fwyaf o'r cwm, fel y gweddill o hen stâd Gwydir, wedi ei feddiannu at goedwigaeth heddiw.

Yr Afon[golygu | golygu cod]

Enw hynafol y nant sy'n rhedeg trwy'r cwm oedd Afon Beinw, ac mae'r enw yn goroesi yn Aberbeinw, rhes o dai yn agos at lle mae'n ymuno ag Afon Lledr. Dywedodd O. Gethin Jones mai talfyraid o Cwm Pennant Beinw yw Cwm Penamnen[2]. Gelwir y nant yn Afon Penamnen neu Afon Cwm Penamnen erbyn hyn.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. History of the Gwydir Family, Sir John Wynn, golygiad J Gwynfor Jones (1990), tudalennau 55,57
  2. 2.0 2.1 Hanes Plwyf Dolwyddelan, Gweithiau Gethin (Llanrwst, 1884)
  3. Cofiant y Parchedig John Jones, Talsarn; Owen Thomas, D.D., Wrexham 1874, tudalen 24
  4. Royal Commission on Ancient and Historical Monuments in Wales and Monmouthshire – an inventory of the ancient monuments in Caernarvonshire,Volume 1 – East (1956), tudalennau 82,83
  5.  safle Dolwyddelan.org (18/10/2009).