Cwm Hyfryd

Oddi ar Wicipedia

Cwm Hyfryd oedd yr enw a roddwyd gan y Cymry i'r ardal o gwmpas Trevelin ger troed yr Andes yn Nhalaith Chubut yn yr Ariannin. Yn Sbaeneg, gelwid yr ardal wrth yr enw Valle 16 de Octubre. Mae'n rhan o ddalgych Afon Futaleufú.

Yn 1884 pendodwyd Luis Jorge Fontana (18461920) yn llywodraethwr cyntaf tiriogaeth newydd Chubut. Gofynnodd y Cymry iddo am ganiatâd i fynd ar deithiau i gyfeiriad yr Andes i chwilio am dir ffrwythlon newydd, gan fod y cyfan o'r tir addas yn Nyffryn Camwy eisoes yn cael ei ffermio. Penderfynodd Fontana fynd gyda hwy, ac yn 1885 arweiniodd daith cwmni a elwid y Rifleros del Chubut, oedd yn cynnwys nifer o Gymry o'r Wladfa, John Daniel Evans yn eu plith, i fforio rhan uchaf Dyffryn Camwy i gyfeiriad yr Andes. Ar y daith yma y cafwyd hyd i'r diriogaeth a alwodd y Cymry wrth yr enw Cwm Hyfryd. Roedd yn amlwg yn ardal ffrwythlon, a threfnwyd i wladychwyr Cymreig symud yno o ran isaf Dyffryn Camwy. Sefydlwyd yr ardal yn swyddogol ar 16 Hydref 1888, a hyn a roddodd yr enw Sbaeneg iddi. Ym mis Hydref 1891 mudodd John Evans a’i deulu i Gwm Hyfryd ac adeiladodd felin yno, a’r felin hon a roes yr enw Trefelin i’r dref.

Pan gododd cynnen rhwng yr Ariannin a Tsile oherwydd bod y ddwy wlad yn hawlio sofraniaeth dros yr ardal, gwahoddwyd y Deyrnas Gyfunol i gyflafareddu. Y gŵr a benodwyd i wneud y gwaith oedd Sir Thomas Holdich, a benderfynodd gynnal pleidlais i setlo'r mater 30 Ebrill 1902. Er bod Tsile yn cynnig dwywaith cymaint o dir iddynt, dewisodd mwyafrif llethol y Gwladfawyr aros o dan faner yr Ariannin, yn bennaf oherwydd nad oeddent am osod ffin rhyngddynt eu hunain a'u teuluoedd yn Nyffryn Camwy. Yn ddiweddarach sefydlwyd tref Esquel, oedd yn wreiddiol yr arosfa dros nos olaf cyn cyrraedd Cwm Hyfryd.