Custos Rotulorum

Oddi ar Wicipedia

Mae Custos Rotulorum (lluosog: Custodes Rotulorum); sef y Lladin am geidwad y rholiau; yn swydd ddinesig hynafol yng Nghymru a Lloegr.

Dyletswydd y Custos Rotulorum yw cadw cofnodion sir ar ran y Goron. Gan fod cyrff statudol, bellach, yn gyfrifol am gadw cofnodion am bethau megis perchnogaeth tir, trethdalwyr, y sawl sydd a'r etholfraint, deiliaid trwyddedau ac ati mae'n swydd seremonïol erbyn hyn.

Yn wreiddiol y Custos Rotulorum oedd y swyddog dinesig uchaf mewn sir, yn bwysicach na'r Raglaw a'r Siryf. Rhwng 1710 a 1836 unwyd y swydd, yn raddol, gyda swydd yr Arglwydd Raglaw. Ers 1836 y mae pob deiliad o'r Arglwyddiaeth Raglaw yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn Custos Rotulorum hefyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Encyclopædia Britannica (11eg argraffiad) 1911. Cambridge University Press.