Cuhelyn Fardd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cuhelyn)
Neidio i: llywio, chwilio

Uchelwr canoloesol o Ddyfed yn ne-orllewin Cymru a oedd efallai yn fardd oedd Cuhelyn Fardd (fl. yn gynnar yn y 12fed ganrif, efallai tua 1100 - 1130). Does dim o'i waith wedi goroesi ond roedd yn ffigwr adnabyddus yn yr Oesoedd Canol.

Roedd Cuhelyn yn perthyn i deulu o feirdd a noddwyr yn y de-orllewin. Roedd yn fab i Gwynfardd Dyfed (bardd na wyddys dim amdano fel arall) ac yn dad i'r bardd Gwrwared Gerdd Gymell, un o gyndeidiau'r cywyddwr enwog Dafydd ap Gwilym. Roedd yn arglwydd neu dywysog yng nghantref Cemais, yn Nyfed.

Er nad oes unrhyw destun o ganu Cuhelyn ar glawr heddiw, ceir awdl foliant iddo yn Llyfr Du Caerfyrddin (hanner cyntaf y 13eg ganrif?). Yn y Myvyrian Archaiology of Wales ceir testun o'r gerdd hon sy'n cael ei briodoli i Guhelyn, ond gwyddom bellach ei bod yn gerdd iddo ef yn hytrach na cherdd o'i waith ei hun. Mae'n ansicr felly ei fod yn fardd, ond yn sicr roedd yn gynheiliad pwysig i'r beirdd proffesiynol. Ceir enghreifftiau eraill o uchelwyr a thywysogion a gyfansoddai gerddi, e.e. Hywel ab Owain Gwynedd, felly nid yw'n amosibl fod Cuhelyn yntau yn fardd.

Mae'r hynafiaethydd George Owen yn cofnodi traddodiadau amdano yn Sir Benfro sy'n ei bortreadu fel brudiwr a chyfarwydd yn ogystal â bardd.

[golygu] Cyfeiriadau

  • A. O. H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Caerdydd, 1982), tt. xl-xlii.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer