Crwst

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Palmiers, bisgedi siwgr a wneir o grwst pwff.

Bwyd pob a wneir o does yw crwst. Gwneir y toes o flawd, halen, siwgr, cymhareb uchel o fraster, ac ychydig o hylif.[1]

Melysfwydydd yw'r mwyafrif o grystiau, ond ceir rhai crystiau sawrus megis voul-au-vents, bouchées, a rholiau selsig. Bwyteir crystiau melys am bwdin ac hefyd am damaid gyda choffi yng nghanol y bore neu am de'r prynhawn.[2]

Geirdarddiad[golygu]

Daw'r gair Cymraeg "crwst" o'r gair Saesneg Canol crouste.[3]

Mathau o grwst[golygu]

Ar draws y byd[golygu]

Gorllewin Ewrop[golygu]

Yng Ngwledydd Prydain mae crystiau yn cynnwys byns a lefeinir gyda burum. Ar y cyfandir, ceir strwdelau, crystiau cnau, merángs, a chrystiau Danaidd.[2]

Datblygodd traddodiad cywrain a soffistigedig o wneud crystiau yn Ffrainc, y Swistir ac Awstria, gyda phwyslais ar gynhwysion o'r ansawdd gorau a gwaith llaw gofalus a glân, a dilynir y broses hon ar draws y byd heddiw. Yn ôl y traddodiad hwn, mae toes neu deisen yn ffurfio sail i'r crwst, a rhoddir blasau ac ansoddau gwrthgyferbyniol gan lenwi gyda jam, hufen, crème pâtissière, neu gwstard, ac yn aml ychwanegir ffondant, siocled, neu eisin.[2]

Mae crystiau Sbaen a Phortiwgal yn llawn wyau, tra bo crystiau'r Eidal yn tueddu i gynnwys cymysgeddau o gnau ac nid cymaint o gynnyrch llaeth.[2]

Dwyrain Ewrop a'r Dwyrain Canol[golygu]

Dylanwadwyd traddodiad crystiau yn Nwyrain Ewrop a'r Dwyrain Canol gan goginiaeth Otomanaidd, sef crystiau ffilo megis y baclafa.[2]

De a Dwyrain Asia[golygu]

Nid yw crystiau yn gyffredin iawn yn Tsieina, ac eithrio lloerdeisenni.[2]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) pastry (food). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Tachwedd 2013.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 585.
  3.  crwst. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2014.