Crugiau Boncath

Oddi ar Wicipedia
Crugiau Boncath
Mathcrug crwn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBoncath Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Crugiau crynion a godwyd gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crugiau Boncath, yng nghymuned Boncath, Sir Benfro; cyfeiriad grid SN206347.

Cofrestrwyd y crug ar ochr ddwyreiniol y Freni Fawr gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: PE290.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb. Mae'n mesur 9 metr mewn diamedr wrth hanner metr gyda modrwy neu goron o gerrig (hyd at 3 metr) yn ei amgylchynnu ar ffurf cylch sydd a'i ddiamedr yn 17m. Darganfuwyd wrn a oedd yn cynnwys llwch dynol yma pan archwiliwyd y crug yn y 19eg ganrif.[2]

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[3]

Ail grug[golygu | golygu cod]

Ceir ail grug ar ochr gogledd-orllewinol y mynydd, ar gyfeirnod grid: SN202349. Mae hwn hefyd wedi ei gofrestru gan Cadw; rhif SAM: PE291.[1] Mae'n 1.5m o uchder ac fel y crug cyntaf (uchod) darganfuwyd wrn dal lludw dynol yma yn y 19eg ganrif.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Cofrestr Cadw.
  2. Crug dwyreiniol; gwefan Coflein.[dolen marw]
  3. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-09.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato