Crug Rhiwiau

Oddi ar Wicipedia
Crug Rhiwiau
Mathcrug crwn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlansannan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.132346°N 3.578924°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH9446060630 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE100 Edit this on Wikidata

Crug crwn 31 metr mewn diamedr a bron i dair metr o uchder a godwyd gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug Rhiwiau, yng nghymuned Llansannan, Sir Conwy; cyfeiriad grid SH944606. Darganfuwyd yma nifer o lestrau dal lludw dynol a sawl dagr.

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE100.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Crugiau eraill[golygu | golygu cod]

Ceir pedwar crug arall gerllaw, pob un rhwng 14 ac 15 metr mewn diamedr.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-05.
  3. "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2010-11-05.
Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.