Cromlech Cors-y-Gedol

Oddi ar Wicipedia
Cromlech Cors-y-Gedol
Mathsafle archeolegol cynhanesyddol, cromlech Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.784822°N 4.072492°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwME038 Edit this on Wikidata

Siambr gladdu gynhanesyddol yn ne Gwynedd yw Cromlech Cors-y-Gedol[1]. Fe'i lleolir ger plasdy Corsygedol tua milltir i'r dwyrain o bentref Dyffryn Ardudwy yn ardal Ardudwy, Meirionnydd. Cyfeirnod AO: (map 116) 602 228. Yr enw lleol am y gromlech yw Coetan Arthur. Mae'n dyddio o Oes Newydd y Cerrig.[2]

Cromlech Corsygedol

Mae'r gromlech yn gorwedd ar darn o dir gweddol wastad rhwng y plasdy ac Afon Ysgethin tua milltir a hanner o lan Bae Ceredigion. Siambr gladdu wedi'i gorchuddio â phridd oedd yma yn wreiddiol, ond dim ond y cerrig sy'n aros heddiw. Collwyd rhai o'r cerrig hynny hefyd pan gafodd y safle ei ysbeilio yn y gorffennol. Mae olion y garnedd a orchuddiai'r siambr i'w gweld ac mae archaeolegwyr wedi dangos mai 26 metr oedd hyd y garnedd honno gyda'r siambr gladdu - sef y gromlech a welir yno heddiw - yn gorwedd yng nghornel y gogledd-ddwyrain. Ceir maen clo mawr a gynhelir gan ddwy garreg. Gweddillion mynedfa'r siambr, sef y 'porth', yw'r cerrig hyn.[2]

Does dim cysylltiad rhwng yr enw 'Coetan Arthur' a chylch y brenin Arthur. Ceir sawl heneb yng Nghymru a'r tu hwnt sy'n dwyn ei enw, yn cynnwys dwy enghraifft arall o'r enw 'Coetan Arthur'. Y syniad fel arfer oedd fod angen arwr neu gawr hynod o gryf i godi'r cerrig i'w lle.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Coflein Archifwyd 2009-07-24 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 24/12/2012
  2. 2.0 2.1 Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1978), tud. 106.