Croes Eliseg

Oddi ar Wicipedia
Croes Eliseg
Mathcolofn fuddugoliaeth, safle archaeolegol, crug crwn, croes garreg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlandysilio-yn-Iâl Edit this on Wikidata
SirLlandysilio-yn-Iâl Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr124.9 metr, 106 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.99213°N 3.18923°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ2027244528 Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE015 Edit this on Wikidata

Mae Croes Eliseg neu Golofn Eliseg yn golofn sy'n coffhau Elisedd ap Gwylog (bu farw c. 755), brenin Powys. Saif yn agos i Abaty Glyn y Groes, ger Llangollen, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ202445. Credir mai camgymeriad ar ran y cerfiwr oedd cerfio "Eliseg" yn lle "Elisedd".

Y Groes[golygu | golygu cod]

Codwyd y golofn gan or-ŵyr Elisedd, Cyngen ap Cadell. Mae'r arysgrif Ladin ar y golofn bron yn amhosibl ei darllen yn awr, ond yr oedd yn gliriach yn oes Edward Llwyd a wnaeth gopi ohono. Mae cyfieithiad o'r rhan o'r arysgrif sy'n delio ag Elisedd fel a ganlyn :

Croes Eliseg
Ysgrifen ar Groes Eliseg
+ Concenn fab Catell, Catell fab Brochmail, Brochmail fab Eliseg, Eliseg fab Guoillauc.
+ A'r Concenn hwnnw, gor-ŵyr Eliseg, a gododd y maen yma ar gyfer ei hen daid Eliseg.
+ Yr Eliseg hwnnw a gasglodd ynghyd etifeddiaeth Powys . . . allan o afael yr Eingl â'i gleddyf ac â thân.
+ Pwy bynnag sy'n ailadrodd yr arysgrif yma, rhoed fendith ar enaid Eliseg.[1]

Mae'r golofn yn awr yng ngofal Cadw.

Y mwnt[golygu | golygu cod]

Crug crwn ydy'r mwnt lle saif y Groes. Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE015.[2] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb. Fe godwyd y crug gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).
  2. Cofrestr Cadw.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Dolen allanol[golygu | golygu cod]