Critérium du Dauphiné

Oddi ar Wicipedia
Critérium du Dauphiné
Enghraifft o'r canlynolrasio dros ddyddiau Edit this on Wikidata
Math2.HC, 2.PT, 2.UWT Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1947 Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.criterium-du-dauphine.fr/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ras seiclo ffordd flynyddol yw'r Critérium du Dauphiné (a adnabyddwyd fel y Critérium du Dauphiné Libéré cyn 2010), a gystadlir dros wyth cymal yn rhanbarth Dauphiné, Ffrainc yn ystod hanner cyntaf mis Mehefin. Dyfeiswyd y ras gan bapur newydd lleol, y Dauphiné Libéré, a roddodd i'r ras ei henw. Rhannwyd y gwaith o drefnu'r ras rhwng cyhoeddwyr y papur a'r Amaury Sport Organisation (ASO) am nifer o flynyddoed: ond yn 2010, ildiodd y papur yr holl gyfrifoldeb am redeg y ras i ASO, a byrrhawyd enw'r ras. Ynghyd â'r Tour de Suisse, mae'r Dauphiné yn ras bwysig yn arwain at y Tour de France ym mis Gorffennaf, ac mae'n ran o galendr Rheng y Byd, UCI.

Oherwydd fod y Dauphiné yn ardal fynyddig, arbenigwyr dringo yw'r enillwyr yn aml. Mae nifer o esgyniadau sy'n adnabyddus o'u cynnwys yn y Tour de France, megis Mont Ventoux, l'Alpe d'Huez, a'r Col du Galibier nau Col de la Chartreuse, yn aml yn ymddangos yn y Dauphiné Libéré. Mae pob un o'r seiclwyr sydd wedi ennill y Tour de France bum gwaith neu fwy, hefyd wedi ennill y Dauphiné Libéré.

Cynhaliwyd y Dauphiné Libéré gyntaf ym 1947, pan enillodd Edouard Klabinski o Wlad Pwyl. Mae Nello Lauredi, Luis Ocaña, Charly Mottet a Bernard Hinault yn rhannu'r record am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau, gyda tair yr un.

Hanes[golygu | golygu cod]

Wedi'r Ail Ryfel Byd, wrth i seiclo adnewyddu wedi seibiant o bump i chwe mlynedd, penderfynnodd y papur newydd Dauphiné Libéré sefydlu a threfnu ras seiclo cymalog trwy rhanbarth Dauphiné. Ers y cychwyn, defnyddiwyd y ras gan reidwyr Ffrengig, megis Louison Bobet a John Robic, i baratoi ar gyfer y Tour de France. Gwasanaethodd hefyd er mwyn profi offer arloesol y seiclwyr ac offer darlledu, sydd odan bwysedd ychwanegol yn y mynyddoedd.

Daeth ffurf presennol y critérium i fod, wedi iddo gyfuno gyda'r Circuit de la Six-Provinces-Dauphiné yn 1969.

Y Critérium yw'r unig ras sydd hefyd wedi cael ei ennill gan pob un o enillwyr bum gwaith y Tour de France (Anquetil, Merckx, Hinault, Indurain ac Armstrong). Mae saith seiclwr hefyd wedi ennill y Dauphiné Libéré a'r Tour de France yr un flwyddyn: Louison Bobet ym 1955, Jacques Anquetil ym 1963, Eddy Merckx ym 1971, Luis Ocaña ym 1973, Bernard Thévenet ym 1975, Bernard Hinault ym 1979 a 1981, Miguel Indurain ym 1995 a Lance Armstrong yn 2002 a 2003.

Y dinasoedd sydd wedi cynnal cychwydd newu ddiwedd y ras amlaf yw: Grenoble (44 gwaith), Avignon (32 gwaith), Saint-Étienne (23 gwaith), Annecy (22 gwaith), Chambéry (21 gwaith), Gap (21 gwaith), Lyon (19 gwaith), Aix-les-Bains (18 gwaith), Valence (16 gwaith), Briançon (15 gwaith) a Vals-les-Bains (15 gwaith).

Crysau[golygu | golygu cod]

Mae arweinydd y dosbarthiad cyffredinol yn gwisgo crys melyn gyda band glas, sydd yn eu gwahaniaethu oddi wrth y reidwyr eraill. Gwobrwywyd crys coch gyda dotiau polca gwyn i'r dringwr gorau cyn gynhared a 1948, oherywdd llwybr mynyddig y Critérium, cyflwynwyd crys werdd ar gyfer y sbrintiwr gorau ym 1955.

Enillwyr[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Enillydd Tîm
1947 Edouard Klabinski Baner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
1948 Édouard Fachleitner Baner Ffrainc Ffrainc
1949 Lucien Lazarides Baner Ffrainc Ffrainc
1950 Nello Lauredi Baner Ffrainc Ffrainc
1951 Nello Lauredi Baner Ffrainc Ffrainc
1952 Jean Dotto Baner Ffrainc Ffrainc
1953 Lucien Teisseire Baner Ffrainc Ffrainc
1954 Nello Lauredi Baner Ffrainc Ffrainc
1955 Louison Bobet Baner Ffrainc Ffrainc
1956 Alex Close Baner Gwlad Belg Gwlad Belg
1957 Marcel Rohrbach Baner Ffrainc Ffrainc
1958 Louis Rostollan Baner Ffrainc Ffrainc
1959 Henry Anglade Baner Ffrainc Ffrainc
1960 Jean Dotto Baner Ffrainc Ffrainc
1961 Brian Robinson Baner Prydain Fawr Prydain Fawr
1962 Raymond Mastrotto Baner Ffrainc Ffrainc
1963 Jacques Anquetil Baner Ffrainc Ffrainc
1964 Valentin Uriona Baner Sbaen Sbaen
1965 Jacques Anquetil Baner Ffrainc Ffrainc
1966 Raymond Poulidor Baner Ffrainc Ffrainc
1969 Raymond Poulidor Baner Ffrainc Ffrainc
1970 Luis Ocaña Baner Sbaen Sbaen
1971 Eddy Merckx Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Molteni
1972 Luis Ocaña Baner Sbaen Sbaen
1973 Luis Ocaña Baner Sbaen Sbaen
1974 Alain Santy Baner Ffrainc Ffrainc
1975 Bernard Thévenet Baner Ffrainc Ffrainc Peugeot BP Michelin
1976 Bernard Thévenet Baner Ffrainc Ffrainc Peugeot-BP-Michelin
1977 Bernard Hinault Baner Ffrainc Ffrainc Gitane-Campagnolo
1978 Michel Pollentier Baner Gwlad Belg Gwlad Belg
1979 Bernard Hinault Baner Ffrainc Ffrainc Renault-Elf-Gitane
1980 Johan van der Velde Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd TI-Raleigh
1981 Bernard Hinault Baner Ffrainc Ffrainc Renault-Elf-Gitane
1982 Michel Laurent Baner Ffrainc Ffrainc Peugeot-Esso-Michelin
1983 Greg LeMond Baner UDA UDA Renault-Elf-Gitane
1984 Martin Ramirez (cyclist) Baner Colombia Colombia Systeme U
1985 Phil Anderson Baner Awstralia Awstralia Panasonic
1986 Urs Zimmermann Baner Y Swistir Y Swistir Carrera-Inoxpran
1987 Charly Mottet Baner Ffrainc Ffrainc Systeme U-Gitane
1988 Luis Herrera Baner Colombia Colombia Café de Colombia
1989 Charly Mottet Baner Ffrainc Ffrainc RMO
1990 Robert Millar Baner Prydain Fawr Prydain Fawr Z
1991 Luis Herrera Baner Colombia Colombia Postobon
1992 Charly Mottet Baner Ffrainc Ffrainc RMO
1993 Laurent Dufaux Baner Y Swistir Y Swistir ONCE
1994 Laurent Dufaux Baner Y Swistir Y Swistir ONCE
1995 Miguel Indurain Baner Sbaen Sbaen Banesto
1996 Miguel Indurain Baner Sbaen Sbaen Banesto
1997 Udo Bölts Baner Yr Almaen Yr Almaen Team Telekom
1998 Armand De Las Cuevas Baner Ffrainc Ffrainc Banesto
1999 Alexander Vinokourov Baner Casachstan Casachstan Casino-Ag2r Prévoyance
2000 Tyler Hamilton Baner UDA UDA US Postal
2001 Christophe Moreau Baner Ffrainc Ffrainc Festina
2002 Lance Armstrong Baner UDA UDA US Postal
2003 Lance Armstrong Baner UDA UDA US Postal
2004 Iban Mayo Baner Sbaen Sbaen Euskaltel-Euskadi
2005 Iñigo Landaluze Baner Sbaen Sbaen Euskaltel-Euskadi
2006 Levi Leipheimer Baner UDA UDA Gerolsteiner
2007 Christophe Moreau Baner Ffrainc Ffrainc AG2R Prévoyance
2008 Alejandro Valverde Baner Sbaen Sbaen Caisse d'Epargne
2009 Alejandro Valverde Baner Sbaen Sbaen Caisse d'Epargne
2010 Janez Brajkovič Baner Slofenia Slofenia Team RadioShack
2011 Bradley Wiggins Baner Prydain Fawr Prydain Fawr Team Sky
2012 Bradley Wiggins Baner Prydain Fawr Prydain Fawr Team Sky

Buddugoliaethau yn ôl gwlad[golygu | golygu cod]

Gwlad Nifer
Baner Ffrainc Ffrainc 30
Baner Sbaen Sbaen 10
Baner UDA UDA 5
Baner Prydain Fawr Prydain Fawr 4
Baner Gwlad Belg Gwlad Belg 3
Baner Colombia Colombia 3
Baner Y Swistir Y Swistir 3
Baner Awstralia Awstralia 1
Baner Yr Almaen Yr Almaen 1
Baner Casachstan Casachstan 1
Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd 1
Baner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl 1
Baner Slofacia Slofacia 1

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]