Cribarth
Oddi ar Wicipedia
| Cribarth Bannau Brycheiniog |
|
|---|---|
| Llun | Cribarth: "Y Cawr Cwsg" |
| Uchder | |
| Lleoliad | {{{lleoliad}}} |
| Gwlad | Cymru |
Mynydd yn ne-orllewin Brycheiniog, Powys yw Cribarth. Fe'i lleolir ger pentref Abercraf yng Nghwm Tawe Uchaf ar gwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhan ddeheuol mynyddoedd y Fforest Fawr.
Mae siâp y mynydd pan y'i gwelir o gyfeiriad Abercraf yn awgrymu siâp dyn yn gorwedd i lawr ar ei gefn ac felly mae'r bobl leol yn ei alw 'Y Cawr Cwsg'. Cynrychiola copa Cribarth ben y Cawr Cwsg gyda gweddill ei gorff ar i waered i lawr y grib tua'r cwm. Y lle gorau i wylio'r olygfa ydy Caerlan, filltir i lawr y cwm tuag at Ystradgynlais.